Llifogydd: D诺r Cymru'n cynnig 拢1,000 i drigolion pentref
- Cyhoeddwyd
Mae D诺r Cymru wedi cynnig 拢1,000 i thua 40 o drigolion pentref yn Rhondda Cynon Taf gafodd ei daro'n wael gan lifogydd.
Mae'r cwmni wedi cynnig yr arian a help ychwanegol i rai cartrefi yn Nhrehafod yn dilyn Storm Dennis y penwythnos diwethaf.
Daw wedi i orsaf dd诺r gerllaw gael ei "orlwytho" yn y tywydd garw.
Dywedodd D诺r Cymru nad ydyn nhw'n gyfrifol am y llifogydd, a'u bod yn hytrach yn "gweithio gyda'r cwsmeriaid hyn i'w helpu yn yr amgylchiadau anodd yma".
'Arian argyfwng'
Mae'r cynnig yn cynnwys 拢1,000 o "arian argyfwng", 拢200 arall - gwerth bil carthffosiaeth am flwyddyn - a'r cyfle i wneud cais am golledion yn y cartref ar yswiriant D诺r Cymru i'r rheiny sydd ddim ag yswiriant eu hunain.
Fe wnaeth Storm Dennis daro dros 1,000 o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn glaw trwm yr wythnos ddiwethaf.
Mewn llythyr at drigolion sy'n gymwys i wneud cais am yr arian, dywedodd D诺r Cymru ei fod wedi cynnal ymchwiliad i orsaf dd诺r gerllaw oedd wedi'i "orlwytho".
Dywedodd y cwmni mewn datganiad: "Rydyn ni wedi ysgrifennu at rai cwsmeriaid sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd yn Nhrehafod i egluro bod yr orsaf dd诺r... wedi gweithredu fel yr oedd wedi'i ddylunio ond ei fod wedi'i orlwytho gan y llifogydd.
"Nid iawndal yw'r gefnogaeth yma, am nad ydym ni'n gyfrifol am y llifogydd, ond rydyn ni'n gweithio gyda'r cwsmeriaid hyn i'w helpu yn yr amgylchiadau anodd yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2020