大象传媒

Cymru i arwain ar dechnoleg hydrogen i greu ynni gl芒n?

  • Cyhoeddwyd
Car hydrogen Prifysgol AbertaweFfynhonnell y llun, Hyundai a Phrifysgol Abertawe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r car hwn o eiddo Hyundai yn chwarae rhan yn ymchwil Y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni ym Mhrifysgol Abertawe

Mae gan Gymru'r potensial i arwain y ffordd wrth gynhyrchu ynni gl芒n trwy dechnoleg hydrogen yn 么l arbenigwyr.

Mae disgwyl bydd cymdeithas fasnach newydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw er mwyn cynrychioli a hyrwyddo economi hydrogen y wlad.

Bydd Aelodau Cynulliad yn trafod sut y gellir helpu'r sector i dyfu yma hefyd.

Mae hydrogen yn cael ei ystyried yn opsiwn amgen yn hytrach na defnyddio tanwydd ffosil ar gyfer gwresogi a chludiant yn benodol.

Mae cynrychiolwyr y diwydiant yn dweud fod gan Gymru'r adnoddau naturiol angenrheidiol ynghyd ag ystod o gwmn茂au a phrifysgolion sydd eisoes yn ymwneud ag ymchwil a datblygu er mwyn llwyddo yn y maes.

Yn ol Dr Jenifer Baxter, Prif Beiriannydd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, mae yna gyfleoedd ledled y wlad.

"Yn ne Cymru, byddai cynhyrchu a defnyddio hydrogen yn rhoi cyfle inni esblygu a thrawsnewid ein diwydiant wrth arwain ar ddatgarboneiddio.

"Mae yna nifer o gysylltiadau posib - a hyd yn oed cyfle i weithio gyda'n arbenigedd injan i edrych i mewn i sut y gallen ni greu canolfan ragoriaeth celloedd tanwydd."

Ffynhonnell y llun, Pragma Industries
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Erbyn hyn mae modd i feiciau, fel y model Pragma Hydrogen yma, ddefnyddio cell hydrogen fel ffynhonnell o b诺er yn lle barti trydan

Yn y gogledd, dywedodd fod yna opsiynau eraill yn enwedig ar gyfer cynhyrchu'r adnodd a allai olygu bod Cymru ar y blaen o ran ffurfio economi hydrogen sy'n garbon isel.

"Ein prif her, fel pob datrysiad carbon isel newydd, yw adeiladu'r seilwaith newydd sydd ei angen arnom," ychwanegodd.

Dywedodd Dr Baxter fod gan Gymru "mwy o waith i neud yn y maes o gymharu 芒 rhai mannau arall yn y DU" ond y gobaith yw bydd y gymdeithas fasnach newydd yn helpu newid y sefyllfa.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Guto Owen fe allai Cymru fod ar flaen y gad yn y maes

Mae Guto Owen, cyfarwyddwr cwmni ynni adnewyddadwy Ynni Glan wedi sefydlu Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru.

Dywedodd fod cyfle i ymuno 芒 "nifer cynyddol o wledydd arloesol" i hyrwyddo'r dechnoleg.

"Gall hydrogen gefnogi uchelgeisiau net-sero Llywodraeth Cymru yn y sectorau gwres, trafnidiaeth a diwydiannol.

"Mae gan Gymru yr adnoddau, seilwaith, diwydiannol ac sector ymchwil gref a all ddarparu llwyfan ar gyfer cyflymu prosiectau hydrogen sylweddol trwy'r 2020au a thu hwnt".