Isafbris alcohol yn dod i rym yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyfraith newydd sy'n nodi isafswm pris alcohol wedi dod i rym yng Nghymru.
O ddydd Llun ymlaen rhaid i siopau ac unrhyw un arall sy'n gwerthu alcohol godi o leiaf 50c yr uned - mae hynny'n golygu y bydd potel o win yn costio ar gyfartaledd o leiaf 拢4.69.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething y byddai isafbris yn delio ag effeithiau niweidiol yfed alcohol rhad a chryf.
Cafodd yr isafswm ei gyflwyno yn Yr Alban yn 2018 ond mae oedi wedi bod yng Nghymru oherwydd gwrthwynebiadau o Bortiwgal - roedden nhw'n poeni y byddai isafbris yn gwneud eu busnesau nhw'n "llai cystadleuol".
Mae adroddiad yn nodi bod gwerthiant alcohol yn Yr Alban wedi gostwng wedi i isafbris ddod i rym yno ym Mai 2018 ond yn yr un cyfnod nodir bod gwerthiant alcohol wedi codi yng Nghymru a Lloegr.
Dywed Mr Gething bod llawer o drafodaeth wedi bod pan gafodd y newid ei gyflwyno gyda rhai yn anhapus am bris alcohol yn codi ond mae tystiolaeth yn dangos bod y budd i iechyd pobl yn glir.
"Nid gwneud alcohol yn rhy ddrud i'w brynu yw'r nod ond delio ag effaith niweidiol alcohol rhad a chryf," meddai.
Dywed Llywodraeth Cymru na fydd pobl yn gweld rhyw lawer o wahaniaeth ym mhris y rhan fwyaf o ddiodydd alcoholig ond fe fydd diodydd cryf a rhad fel seidr gwyn gryn dipyn yn ddrutach.
Dywed y Swyddfa Gartref nad oes cynlluniau i gyflwyno isafbris alcohol yn Lloegr ar hyn o bryd.
Mae yn gorfodi manwerthwyr i ddefnyddio fformiwla i gyfrifo'r isafbris.
Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod 500 o bobl yn marw o achosion cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae 60,000 o driniaethau ysbyty yn gysylltiedig ag yfed alcohol - ac amcangyfrifir fod y gost i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn 拢159m bob blwyddyn.
Dywed Dr Sarah Aitken, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, eu bod nhw wedi bod yn gefnogol i newid y gyfraith o'r dechrau.
"Ry'n yn gweld effeithiau goryfed alcohol ar iechyd pobl bob dydd.
"Ar wah芒n i'r niwed i'r iau, mae alcohol hefyd yn effeithio ar y galon, yr arennau a'r ymennydd.
"Mae hefyd yn cael effaith ar wasanaethau ysbyty ac ar fywydau pobl yn gyffredinol.
"Mae cyflwyno isafbris yn mynd i ostwng y niwed a wneir gan alcohol a gobeithio y bydd yn gwneud i bobl feddwl am eu perthynas gydag alcohol."
'Fyddai o ddim wedi helpu fi'
"Go brin y byddai'r gyfraith wedi fy helpu i," meddai Carol Hardy, sy'n alcoholig ond sydd bellach yn rheolwr y Stafell Fyw, sefydliad sy'n rhoi cymorth i bobl sy'n gaeth i alcohol a chyffuriau.
Mewn cyfweliad ar y Post Cynta dywedodd: "Fyddai y gyfraith newydd ddim wedi stopio fi achos unwaith 'dach chi'n alcoholic - alcohol yw'r unig beth 'dach chi isio rili.
"Mi oeddwn i'n ffito mewn i'r dosbarth canol - roeddwn yn gweithio fel athrawes broffesiynol ac ro'dd yr arian gynnai drwy'r amser i fynd i brynu diod.
"Dwi'n cwestiynu a fydd yn 'neud gwahaniaeth - mae'n dibynnu lle mae pobl ar y daith o ran bod yn ddibynnol ai peidio.
"Dwin cefnogi agweddau o'r gyfraith sy'n dod i rym - yn bennaf dylai helpu pobl ifanc sy'n dechrau ar y daith i fod yn oedolion - gobeithio fyddan nhw'n sylweddoli y niwed gall alcohol ei wneud.
"Mi all tlodion ein cymdeithas gael sioc ofnadwy - a dwin poeni y byddan nhw'n troi at gyffuriau neu spice."
Mae elusen Kaleidoscope yn awgrymu na fydd y gyfraith yn delio 芒 goryfed alcohol ymhlith "pobl ddosbarth canol".
Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod pobl mewn ardaloedd cefnog yn fwy tebygol o yfed mwy na'r hyn sy'n cael ei argymell na phobl mewn ardaloedd difreintiedig ond yn 么l un meddyg mae'r effeithiau yn llai gan bod gweddill eu patrwm byw yn iachach.
Mae yna awgrymiadau y gallai newid yn y gyfraith arwain rhai yfwyr at gyffuriau neu at fragu alcohol adref ond mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu nad yw canlyniadau negyddol yn debygol.
Dywedodd Mr Gething y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych eto ar y gyfraith ymhen pum mlynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2019