Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymeradwyo cais cynllunio am ffordd osgoi Llanbedr
Mae ffordd osgoi i bentref Llanbedr ym Mharc Cenedlaethol Eryri wedi cael ei chymeradwyo - 60 mlynedd ar 么l i'r syniad gael ei wyntyllu gyntaf.
Bu aelodau pwyllgor cynllunio'r Parc yn cwrdd ddydd Mercher, gydag argymhellion gan swyddogion i gymeradwyo'r syniad.
Cafodd cais i godi ffordd osgoi ei gymeradwyo yn Medi 2018 ond yna bu'n rhaid oedi.
Fe benderfynodd swyddogion ail-asesu'r cais ar 么l i dirfeddiannwr lleol ofyn am adolygiad barnwrol.
Mae lonydd cul y pentref ar yr A496 yn achosi oedi, yn rhannol wrth i bobl ymweld 芒 thraeth poblogaidd Mochras.
Bydd llwybr y ffordd osgoi 1.5 cilomedr o hyd ar gyfer y pentref rhwng Harlech a Bermo yn wahanol i'r un gafodd ei lunio yn 1993.
Roedd adroddiad i Bwyllgor y Parc yn dweud nad oedd polis茂au cyfredol yn caniat谩u datblygiadau mawr o fewn y parc cenedlaethol, ond bod modd dynodi'r ffordd fel un o bwys lleol.
Gobaith Cyngor Gwynedd yw y bydd ffordd osgoi hefyd yn gwella'r mynediad i Faes Awyr Llanbedr.
Mae rhai yn credu y bydd y ffordd osgoi hefyd yn helpu denu cwmn茂au i'r ardal, ar 么l i Asiantaeth Ofod y DU gyhoeddi buddsoddiad o 拢500,000 yn y maes awyr ar gyfer sefydlu canolfan ofod yno.
Cyn y penderfyniad ddydd Mercher dywedodd Morfudd Lloyd, clerc y cyngor cymuned: "Mae angen ffordd osgoi ond yn ychwanegol i hynny mae gennym ni y maes awyr sydd lawr ffordd Mochras.
"Er mwyn cael rhyw ddatblygiad yn fanno mae rhai yn dweud fod rhaid cael ffordd osgoi, ac os nac fydd y datblygiad yn mynd drwodd o flaen pwyllgor y Parc Cenedlaethol mae yna wir beryg y byddan nhw'n tynnu n么l o'r maes awyr."
Dywedodd cyfarwyddwr cynllunio a rheoli tir Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Jonathan Cawley nad yw'n gwybod a fydd cais yn y dyfodol ar gyfer cynllun mawr o'r fath.
Ond ychwanegodd: "Petasai'r datblygiad ffordd arfaethedig yn cael ei gymeradwyo, dydy o ddim yn anochel y bydd y porth gofod yn dilyn."