大象传媒

Banc digidol Starling i greu 400 o swyddi yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
StarlingFfynhonnell y llun, Starling
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Starling 1.3 miliwn o gyfrifon

Mae banc digidol Starling wedi cyhoeddi y bydd yn creu 400 o swyddi newydd yng nghanol Caerdydd.

Dywedodd y bydd yr holl swyddi - ym meysydd gwyddoniaeth data, twyll a gwasanaethau cwsmeriaid - eleni, gyda'r gobaith o gyflogi mwy yn y dyfodol.

Cafodd y banc ei sefydlu gan Anne Boden, o Abertawe, yn 2014 ar 么l gyrfa lwyddiannus gyda banciau'r stryd fawr.

Ers hynny mae Starling wedi tyfu i gyflogi 800 o staff yn Llundain a Southampton.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y banc ei sefydlu gan Anne Boden o Abertawe yn 2014

Bydd y banc, sydd 芒 1.3 miliwn o gyfrifon, yn symud i swyddfeydd yn Brunel House ger gorsaf drenau Heol y Frenhines.

Dywedodd y banc nad yw wedi derbyn unrhyw gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y buddsoddiad.