Pennaeth Ysgol Friars yn gwadu 'awyrgylch o ofn'
- Cyhoeddwyd
Mae prifathro o Wynedd wedi gwadu fod "awyrgylch o ofn" yn bodoli yn ei ysgol o dan ei arweinyddiaeth, wrth roi tystiolaeth i wrandawiad Cyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Neil Foden, pennaeth Ysgol Friars ym Mangor, yn gwadu tri honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol mewn cysylltiad 芒'r ffordd y gwnaeth drin staff rhwng Ebrill 2014 a Hydref 2016.
Fe honnir ei fod wedi dweud mewn geirda llafar am athro fod yr unigolyn yn wynebu cyhuddiad o gamweithredu, pan roedd yr unigolyn wedi ei glirio o unrhyw gam mewn gwirionedd.
Mae Mr Foden hefyd wedi ei gyhuddo o weithredu proses ddisgyblu yn erbyn un athro penodol wedi i drip i glwb p锚l-droed Fulham gael ei ganslo, ac yna cyfeirio at yr athro dan sylw fel "baby face" wrth gadeirydd y llywodraethwyr.
Mae'n gwadu'r holl honiadau yn ei erbyn.
Proses ddisgyblu
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o drin un athro yn annheg gan ddechrau proses ddisgyblu yn ei erbyn am y ffordd yr oedd wedi trin disgybl oedd yn tarfu ar asesiad oedd wedi ei reoli.
Cafodd yr athro ei glirio o unrhyw gam yn ddiweddarach wedi iddo apelio.
Yn ystod gwrandawiad yn Ewlo ddydd Mercher, dywedodd Mr Foden ei fod wedi gweithio yn yr ysgol ers dros 20 mlynedd, gan wella cyrhaeddiad academaidd a disgyblaeth yr ysgol yn ystod y cyfnod yma.
Llythyr geirda
Clywodd y gwrandawiad fod bron pob aelod o staff yr ysgol wedi llofnodi geirda yn ei gefnogi.
Gofynnodd ei fargyfreithiwr Jonathan Storey iddo os oedd yn adnabod y disgrifiad oedd wedi cael ei ddefnyddio gan un tyst am ei ffordd o reoli - 'rheoli drwy ofn'.
Atebodd Mr Foden mai dim ond ar ddau achlysur yr oedd wedi clywed y disgrifiad yn cael ei ddefnyddio, ac ar un achlysur fe drafododd y peth mewn cyfarfod staff.
Roedd wedi defnyddio delwedd o gymeriad ffilm o'r enw Ming the Merciless i ofyn i'w staff mewn ffordd ysgafn os oedd awyrgylch o ofn yn yr ysgol, ac fe ddywedodd y staff wrtho nad oedd hynny'n wir.
Yn ystod ei dystiolaeth fe ddisgrifiodd ddigwyddiad gydag athro bioleg sy'n cael ei adnabod fel 'Person D' yn y gwrandawiad.
Roedd y dyn hwn wedi wynebu ymchwiliad disgyblaeth ar 么l symud disgybl i ystafell arall am ei fod yn tarfu ar asesiad mewn dosbarth, gan adael y dosbarth heb oruchwyliaeth am gyfnod byr.
Dywedodd Mr Foden: "Roedd 'na faterion oedd yn fy arwain at benderfyniad fod hwn o bosib yn fater disgyblu.
"Roedd Person D wedi torri'r rheolau am asesiadau wedi eu rheoli, gan adael gr诺p o ddisgyblion heb oruchwyliaeth. Yna fe adawodd y bachgen yr oedd wedi ei dynnu o'r dosbarth heb oruchwyliaeth.
"Cafodd gwaith y bachgen hwnnw ar yr asesiad ei annilysu, ac roedd Person D wedi peryglu holl waith y dosbarth o gael ei annilysu.
"Yn ail, roedd i bob pwrpas wedi gadael y bachgen yma mewn cwpwrdd. Doedd dim lle addas i weithio yno ac roedd cemegau'n cael eu cadw yno'n gyson,
"Fe wnaeth pethau'n waeth gan iddo ddweud wrth ddisgyblion yn ddiweddarach fod y bachgen yn absennol o wers 'am nad oedd am gael ei gloi yn y cwpwrdd unwaith eto'."
Dywedodd nad oedd yn "anghymesur" i ddechrau proses ddisgyblu yn erbyn Person D.
Gofynnodd cyfreithiwr Mr Foden iddo os oedd wedi "erlid" yr athro.
Atebodd: "Na, nes i ddim".
Datganiad
Yna fe ofynnodd ei fargyfreithiwr iddo am ddatganiad gan yr un athro oedd yn dweud fod arweinyddiaeth y pennaeth yn golygu "eich bod yn ei giang, neu doeddech chi ddim".
Mewn ymateb dywedodd Mr Foden: "Dydw i erioed wedi meddwl amdana i fy hun gyda giang yn yr ysgol - sothach llwyr yw hynny."
Fe ofynnwyd i Neil Foden am yr ail honiad yn ei erbyn hefyd - sef ei fod wedi dweud geirda llafar am athro fod yr unigolyn yn wynebu cyhuddiad o gamweithredu, pan roedd yr unigolyn wedi ei glirio o unrhyw gam.
Dywedodd wrth y gwrandawiad: "Fe ddywedais i wrth y cyflogwr posib fod honiad yn erbyn Person B, ond fyddwn i heb fod yn gywir petawn i wedi dweud ei fod bellach wedi ei glirio achos nid oedd wedi ei glirio.
"Roedd sancsiwn o'r corff llywodraethu yn ei erbyn, ac roedd yn dal yn weithredol."
Mae disgwyl i wrandawiad Cyngor y Gweithlu Addysg bara gweddill yr wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2020