大象传媒

Plac piws i un o brotestwyr gwreiddiol Comin Greenham

  • Cyhoeddwyd
Eunice StallardFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Eunice Stallard yn aelod blaenllaw Women for Life on Earth a Grannies for Peace

Bydd dynes wnaeth ymgyrchu am ddegawdau dros heddwch a chael gwared ar arfau niwclear yn cael ei hanrhydeddu ym Mhowys ddydd Gwener.

Pan wnaeth taflegrau gyrraedd safle Awyrlu'r Unol Daleithiau yn Berkshire yn 1981, fe wnaeth degau o filoedd o bobl fynd yno i brotestio.

Eunice Stallard o Ystradgynlais oedd un o'r protestwyr cyntaf yng Nghomin Greenham, wedi iddi gerdded 100 milltir i sefydlu'r gwersyll heddwch y tu allan i'r safle.

Bydd plac piws yn cael ei ddadorchuddio yn ei thref enedigol er cof amdani ddydd Gwener.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y gwersyll yng Nghomin Greenham ei sefydlu yn 1981

Roedd y rhyfel oer yn ei anterth ac roedd Eunice yn ffigwr blaenllaw yn y gr诺p Cymreig, Women for Life on Earth - y criw cyntaf i gyrraedd RAF Greenham Common i wrthwynebu penderfyniad Llywodraeth y DU i adael taflegrau'r Unol Daleithiau i gael eu cadw yno.

Roedd hynny'n ddechrau ar ymgyrch wnaeth bara 19 mlynedd, ac fe wnaeth mwy o ymgyrchwyr ymuno 芒'r gwersyll wrth iddo gael sylw gan y wasg ar draws y byd.

Yn ddiweddarach bu Eunice yn rhan o gr诺p Grannies for Peace, wnaeth brotestio yn RAF Fairford yn 2003 yn gwrthwynebu rhyfel Irac.

Bu'n byw yn ardal Ystradgynlais trwy ei hoes, a bu farw yn 2011 yn 93 oed.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Eunice Stallard yn 2011 yn 93 oed

Bydd ei theulu yn dadorchuddio plac piws yn Y Neuadd Les yn Ystradgynlais ddydd Gwener fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Yn debyg i blaciau glas, cafodd y rhai piws eu sefydlu gan gr诺p o ACau benywaidd yn 2017 er mwyn nodi llwyddiannau merched yng Nghymru.

Eunice fydd y pumed person i dderbyn plac piws, yn dilyn Angela Kwok, Val Feld, Ursula Masson a Megan Lloyd George.