´óÏó´«Ã½

Ateb y Galw: Yr archeolegydd Dr Katie Hemer

  • Cyhoeddwyd
Katie HemerFfynhonnell y llun, Katie Hemer

Yr archeolegydd Dr Katie Hemer sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Dr Iestyn Jones yr wythnos diwethaf.

Mae Katie yn ddarlithydd bioarcheoleg ym Mhrifysgol Sheffield. Cyd-gyflwynodd y gyfres S4C, Corff Cymru, a oedd yn edrych ar ddatblygiad y corff dynol, ac mae hi hefyd wedi ymddangos ar y gyfres Cynefin.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Diwrnod poeth o haf yn chwarae mewn cwt traeth ym Mae Colwyn efo fy mam, fy nain a'i chi bach du - roeddwn i'n eithaf ifanc.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Yr actor Jonathan Brandis o'r gyfres seaQuest DSV.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gorfod sbrintio yn erbyn y cyn-chwaraewraig rygbi, Non Evans, ar gyfer pennod o Corff Cymru… y cywilydd!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynodd Katie y gyfres Corff Cymru gyda Dr Anwen Jones

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wrth geisio ateb y cwestiwn isod am fy niwrnod olaf ar y blaned!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gadael cwpanau hanner llawn o de oer o amgylch y tÅ·!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Traeth Mawr, Tyddewi. Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i'n arfer mynd yno ar wyliau haf gyda fy rhieni - atgofion hyfryd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Katie yn rhan o'r tîm archeolegol oedd yn cloddio safle Capel San Padrig ar Traeth Mawr yn y rhaglen Cynefin

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson fy mhriodas.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Penderfynol, gobeithiol, diamynedd

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Far from the Madding Crowd gan Thomas Hardy - dwi'n caru gallu Hardy i ddisgrifio'r dirwedd, yr awyrgylch, a chreu cymeriadau cymhleth.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Fy nain ar ochr fy nhad - bu hi farw pan o'n i'n ifanc. Pan oedd hi'n fyw gweithiodd yn ddiflino dros hawliau gweddwon gan gynnwys sefydlu Cymdeithas Genedlaethol y Gweddwon.

Byddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i ddod i'w hadnabod a chlywed mwy am ei hymgyrchu.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Unrhyw gân gan Rage Against the Machine - mae gen i lawer o atgofion hapus o wrando arnyn nhw gyda ffrindiau.

Ffynhonnell y llun, Mark Baker
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y band Rage Against the Machine ei sefydlu yn Los Angeles yn 1991, ac maen nhw fod yn ôl yn ar daith yn 2020

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Yn fy arddegau/ugeiniau cynnar, chwaraeais polo canŵ i dîm cenedlaethol Prydain Fawr.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dal fy ngŵr a fy merch bach a pheidio â gadael fynd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cyntaf - well gen i gael mwy o bwdin na chwrs cyntaf plîs!

Prif gwrs - Caws macaroni gyda pys

Pwdin - Pastai pecan gyda hufen iâ bara brown

O archif Ateb y Galw:

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Rhywun sydd efo'r pŵer i wneud newid positif yn y byd.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Al Lewis

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw