大象传媒

Coronafeirws: Siopau yn defnyddio cynlluniau Brexit

  • Cyhoeddwyd
Silffoedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nwyddau golchi dwylo yn brin mewn archfarchnad yng Nghaerfyrddin

Mae'r corff sy'n cynrychioli archfarchnadoedd a siopau yng Nghymru wedi datgelu bod eu paratoadau ar gyfer Brexit yn eu helpu i ddelio 芒 thrafferthion coronafeirws.

Yn 么l llefarydd ar ran y Consortiwm Manwerthu Prydeinig maen nhw'n ceisio "delio 芒'r newidiadau i gyflenwad a'r galw am rai nwyddau" drwy weithredu eu cynlluniau ar gyfer Brexit.

Er nad oes awgrym bod nwyddau yn y siopau yn brin yn gyffredinol, mae'r consortiwm wedi gorfod cymryd camau i sicrhau bod cyflenwadau yn cael eu dosbarthu yn ddidrafferth.

Mae nifer o silffoedd mewn archfarchnadoedd yn wag - wrth i'r galw am nwyddau ar gyfer golchi neu lanhau dwylo gynyddu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai silffoedd gwag yn Llanisien brynhawn Gwener

Brynhawn Gwener cadarnhaoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod cyfanswm o ddau achos o'r feirws yng Nghymru - dim newid ers eu cyhoeddiad blaenorol dydd Iau.

Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi dod o hyd i gysylltiadau agos yr achos diweddaraf, ac rydym yn cymryd yr holl gamau priodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd."

'Dim rhannu cwpan cymun'

Ymhlith y cyrff sydd yn ymateb i'r feirws, mae'r Eglwys yng Nghymru wedi dweud na ddylai addolwyr rannu cwpanau cymun, wrth i nifer o achosion o'r coronafeirws gynyddu.

Mewn cyngor newydd a gyhoeddwyd dydd Gwener, dywedodd yr eglwys bod y risg i unigolion yn isel. Ond yn 么l yr eglwys dylid cymryd camau i atal y posibilrwydd o rannu'r firws gan gynnwys osgoi ysgwyd llaw, gusanu neu rannu cwpanau cymun.

Yn 么l yr eglwys fe ddylai addolwyr dderbyn gwin cymun yn uniogol yn hytrach na rhannu cwpan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Silffoedd gwag mewn un archfarchnad yn Llanelli

Mae nifer o sefydliadau eraill wedi ymateb i'r pryderon am y feirws.

Dywedodd cwmni bysys Stagecoach eu bod wedi atgoffa eu timau o'r angen i lanhau bysys yn drylwyr a'u bod yn "monitro'r sefyllfa yn ofalus".

Mae nifer o adroddiadau bod rhai siopau wedi gweld cynnydd mewn galw am nwyddau golchi dwylo a phapur t欧 bach.

Datganiad yr Urdd

Dywedodd llefarydd ar ran Urdd Gobaith Cymru eu bod yn cadw golwg ar y sefyllfa hefyd.

"Mae'r Urdd yn monitro'r sefyllfa yn barhaus ac yn gwrando ar gyngor arbenigol ar y mater. Mae gan ein gwersylloedd gynlluniau gweithredu yn eu lle i ddelio gydag unrhyw sefyllfa allai godi.

"Mae'r un peth yn wir am ddigwyddiadau yn enw'r Urdd a byddwn yn cysylltu'n syth gyda'n rhanddeiliaid os oes unrhyw newydd am hyn."