Tiara diemwnt y Marcwis o F么n ar werth yn yr Iseldiroedd
- Cyhoeddwyd
Mae tiara diemwnt a oedd unwaith yn eiddo i un o bendefigion mwyaf afradlon Prydain ar werth mewn ffair gelf Ewropeaidd.
Roedd Tiara Ynys M么n ar un adeg yn eiddo i Henry Cyril Paget - pumed Marcwis Ynys M么n.
Mae disgwyl i'r tiara werthu am swm chwe ffigwr yn y digwyddiad yn yr Iseldiroedd ddydd Sadwrn.
Mae'r tiara yn dyddio o tua 1890, a gadawyd ef i Paget ym 1898 wedi marwolaeth ei dad.
Etifeddodd hefyd deitl y teulu ac ystadau teuluol yn Sir Stafford, Dorset, Ynys M么n a Sir Derby.
Cafodd yst芒d gwerth 拢535,000 - sy'n cyfateb i tua 拢60m heddiw.
Yn ogystal, cynhyrchodd cartrefi ac ystadau'r teulu incwm blynyddol o 拢120,000 - gwerth tua 拢13m yn 2020.
Ond erbyn iddo farw yn Monte Carlo yn 1905 yn 29 oed roedd Henry yn fethdalwr.
Cafodd ei hanes ei ddileu o'r llyfrau hanes wedi iddo wario holl gyfoeth y teulu ar gynnal dram芒u drud a chroeswisgo mewn gwisgoedd crand wedi eu gorchuddio mewn diemwntau.
Nawr mae'r tiara - un o'r ychydig eitemau na chafodd ei werthu i dalu ei ddyledion - yn cael ei rhoi ar werth gan y teulu union 115 mlynedd ar 么l ei farwolaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017