Ap Cymraeg i helpu cleifion canser y fron
- Cyhoeddwyd
Bydd cleifion sydd 芒 chanser y fron yn gallu troi at ap arbennig am gymorth - a hynny yn Gymraeg.
Mae ap Becca, sydd yn cynnig cymorth a syniadau ymarferol i gleifion, wedi bod ar gael yn Saesneg ers 2017 ond bellach mae wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.
Daw'r cam yn dilyn llwyddiant cais loteri am grantiau gwerth 拢655,000 gan sefydliad Breast Cancer Now.
Yn 么l un sydd wedi goroesi canser mae'r ap newydd yn gwneud i ddioddefwyr deimlo eu bod yn "agosach at ei gilydd".
Ar yr ap mae modd darllen am brofiadau merched eraill sydd yn byw gyda chanser a chael cymorth ymarferol ar sut i ymdopi 芒 sgil effeithiau'r driniaeth.
Fe gafodd Glenda Burke o Borthmadog ddiagnosis o ganser y fron ym mis Medi 2017 a daeth ei thriniaeth i ben ym mis Ebrill 2018.
"Dach chi'm eisiau trwblo'r meddyg teulu am bethau 'da chi'n meddwl sy'n ddibwys ac oedd o jest yn rhoi llu o wybodaeth imi," meddai.
'Atebion am bopeth'
Yn 么l Glenda roedd hi'n teimlo ar ei phen ei hun "ar 么l i'w thriniaeth ddod i ben", ond roedd ap Becca yn cynnig cymorth iddi.
"Oedd o efo llwyth o wybodaeth gan bobl oedd wedi bod trwy'r un peth 芒 fi, lincs i bob math o wefannau a gwybodaeth dda iawn.
"Roedd y driniaeth i gael gwared 芒'r canser yn rhagorol ond unwaith mae'r driniaeth wedi gorffen, 'dach chi ar ben eich hun a'r disgwyl ydi eich bod yn dod n么l i normal ond 'dio ddim mor hawdd 芒 hynny."
Dywedodd Glenda fod nifer o bobl yn poeni bod y canser am "ddod n么l ar 么l gorffen eu triniaeth" ac roedd yr ap yn cynnig atebion am bynciau na fyddech yn trafferthu holi amdanynt i'r meddyg teulu.
Dywedodd y Farwnes Delyth Morgan, Prif Weithredwr Breast Cancer Now, yr elusen ymchwil a gofal, ei bod hi "mor falch bod Becca bellach yn ddwyieithog ac yn darparu opsiwn Cymraeg, gan sicrhau bod menywod yng Nghymru yn gallu cael gwybodaeth a chefnogaeth yn eu hiaith ddewisol".
Canser y fron yw canser mwyaf cyffredin y DU, gyda thua 55,000 o fenywod a 370 o ddynion yn cael diagnosis pob blwyddyn, gan gynnwys 2,900 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru.
Hyd yn hyn, mae ap Becca wedi cael ei ddefnyddio gan dros 42,000 o bobl ers ei lansio ym mis Mai 2017.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2019
- Cyhoeddwyd27 Medi 2019