大象传媒

Coronafeirws: Dau achos newydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
ciwioFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ciwio tu allan i siop Boots yng Nghaerdydd ddydd Sul wrth i'r galw am gynnyrch hylendid gynyddu

Mae dau achos arall o'r coronafeirws wedi'u cadarnhau yng Nghymru ddydd Llun, gydag un claf o ardal Castell-nedd Port Talbot, a'r llall o Gasnewydd.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi dweud bod disgwyl y bydd rhagor o achosion o'r feirws yng Nghymru dros y dyddiau nesaf.

Ar 么l cyfarfod brys o bwyllgor argyfyngau Cobra, dywedodd: "Ry'n ni wedi disgwyl ers amser hir y byddai rhagor o achosion, ac ry'n ni'n disgwyl rhagor eto dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf hefyd."

Roedd Mr Gething yn y cyfarfod ar y cyd 芒'r Prif Weinidog, Mark Drakeford a gweinidogion eraill ardraws y DU.

Disgrifiad,

Fe allai golchi dwylo'n gyson helpu i atal lledaenu coronafeirws

Prif neges y cyfarfod yw nad yw cyngor gwyddonol yn awgrymu bod rhaid cau ysgolion nac atal grwpiau mawr o bobl rhag cyfarfod mewn digwyddiadau torfol.

Does dim bwriad i ganslo'r gem rygbi rhwng Cymru a'r Alban yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn fel rhan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dywedodd Mr Gething bod y feirws dal yn y cyfnod cynnar yng Nghymru a bu'n atgoffa'r cyhoedd i ddilyn cyngor am gadw hylendid personol.

Dau achos newydd Cymru

Mae dau achos arall o'r coronafeirws yng Nghymru wedi cael eu cadarnhau ddydd Llun.

Mae un claf yn byw yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac mae wedi dychwelyd o dde'r Eidal yn ddiweddar.

Mae'r ail glaf yn byw yn ardal Casnewydd ac wedi dychwelyd i Gymru o ogledd Yr Eidal.

Dywedodd Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton: "Fe allaf gadarnhau bod dau glaf arall wedi cael prawf positif ar gyfer coronafeirws (COVID-19), sydd yn dod 芒'r cyfanswm o achosion newydd yng Nghymru i chwech.

"Gallwn gadarnhau nad oes cysylltiad rhwng y ddau unigolyn a bod y ddau wedi teithio ar wah芒n yn 么l i Gymru o wahanol rannau o'r Eidal.聽

"Mae'r unigolion yn cael eu rheoli mewn lleoliadau priodol yn glinigol yn seiliedig ar asesiad gan ymgynghorydd clefydau heintus arbenigol.

"Gall y cyhoedd fod yn sicr bod Cymru a'r DU gyfan yn barod ar gyfer y mathau hyn o achosion.

"Gan weithio gyda'n partneriaid yng Nghymru a'r DU, rydym wedi gweithredu'r ymateb rydym wedi'i gynllunio, gyda mesurau rheoli haint cadarn yn eu lle i warchod iechyd y cyhoedd.

Daw hyn wrth i becynnau gael eu dosbarthu i feddygfeydd teulu ledled Cymru i'w hamddiffyn wrth iddyn nhw drin pobl maen nhw'n amau o fod 芒'r coronafeirws.

Bydd y 640 o feddygfeydd teulu sydd yng Nghymru yn cael pecynnau o fygydau wyneb, menig a ffedogau yr wythnos hon.

'Mesurau cadarn'

Wrth drafod dosbarthu cyfarpar diogelu personol i feddygfeydd, dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd: "Mae'r pecynnau hyn yn rhan o fesurau rheoli heintiau cadarn sydd ar waith gennym, ac rwyf am sicrhau pobl ein bod yn gweithio'n agos gyda GIG Cymru a'r gwasanaethau cymdeithasol ledled y wlad.

"Mae'n bwysig bod gan staff gofal meddygol a chymdeithasol rheng flaen y cyfarpar sydd eu hangen arnynt i'w cadw'n ddiogel tra byddant yn helpu pobl yr amheuir bod ganddynt coronafeirws.

"Mae'r mygydau wyneb, y menig a'r ffedogau yn rhan o gyflenwad sydd gennym yn ein cynlluniau wrth gefn os bydd eu hangen i gefnogi ein GIG a'n gwasanaethau cymdeithasol."

Yn gynharach dywedodd Mr Gething y bydd y llywodraeth hefyd yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer defnyddio cysylltiadau fideo er mwyn amddiffyn staff rheng flaen y gwasanaeth iechyd.

Ffynhonnell y llun, PA Wire
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cododd nifer yr achosion o goronafeirws yn Nghymru i chwech ddydd Llun

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfreithiau newydd fydd yn cael eu cyflwyno yn San Steffan er mwyn delio 芒'r coronafeirws yn berthnasol i Gymru hefyd.

Bydd deddfwriaeth frys Llywodraeth y DU yn cynnwys cyflwyno rheolau newydd fydd yn caniat谩u i bobl adael eu swyddi arferol am gyfnod os ydyn nhw'n gwirfoddoli i helpu mewn argyfwng.

Mae'n fwriad hefyd cyflwyno mesurau a fydd yn caniat谩u i lysoedd barn ddefnyddio cysylltiadau fideo er mwyn cynnal achosion.

Hefyd fe allai staff y gwasanaeth iechyd sydd wedi ymddeol yn ddiweddar gael eu hailgofrestru ar frys os oes angen.

Ychwanegodd Mr Gething: "Mae'r grymoedd brys yma yn caniat谩u i ni ymateb yn gyflym ac effeithiol i Covid-19 drwy gryfhau ein grymoedd cwarantin a grymoedd i reoli digwyddiadau torfol.

"Bydd yn caniat谩u i ni gyflogi gwirfoddolwyr a staff sydd wedi gadael y Gwasanaeth Iechyd yn ddiweddar, ac yn caniat谩u i ni gau ysgolion a cholegau os oes angen er mwyn rheoli'r haint.

"Diogelwch y cyhoedd yw fy mlaenoriaeth uchaf ac rydym yn gweithio yn barhaus i ddeilio ag effaith Covid-19."