Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pam rhoi'r bleidlais i bobl 16 oed?
Mae 13 Mawrth yn nodi 50 mlynedd ers i bobl 18 oed bleidleisio am y tro cyntaf ym Mhrydain. Pasiwyd y ddeddf yn 1969 ond yn isetholiad Bridgewater yn 1970 y dechreuodd y ffordd o bleidleisio rydyn ni'n ei adnabod heddiw.
Flwyddyn nesaf bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio yn Etholiadau Cynulliad Cymru am y tro cyntaf - mesur a gafodd ei basio o un bleidlais gan Aelodau Cynulliad yn 2019.
Ond pam y newid? Beth fydd y goblygiadau i etholiadau ac a fydd mwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth oherwydd hyn?
Jess Blair yw cyfarwyddwr ERS Cymru (Electoral Reform Society) ac roedd hi'n ymgyrchu o blaid newid yr oed pleidleisio i 16.
"Roedden ni o blaid rhoi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed am nifer o resymau. Y ddadl gryfa' o blaid gwneud i fi oedd ei fod yn rhoi cyfle i ni sicrhau bod gan bobl lot mwy o wybodaeth a'u bod yn engaged y tro cyntaf maen nhw'n pleidleisio," meddai Jess.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl 16 ac 17 oed yn dal yn yr ysgol, felly yn captive audience ar gyfer addysg wleidyddol. Os allwn ni gyfuno ehangu'r oed pleidleisio gydag addysg effeithiol am wleidyddiaeth fe wnawn ni greu etholaeth sy'n llawer mwy parod i bleidleisio na chenedlaethau cynt."
Bydd Cymru'n dilyn gwledydd fel Yr Alban, Awstria, Malta ac Estonia wrth ostwng yr oed pleidleisio i 16.
"Mae gostwng yr oed pleidleisio yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar draws y byd," esboniodd Jess. "Yn agos i adref mae'r Alban wedi cael dipyn o lwyddiant yn gwneud hyn - roedd y rheol mewn lle ar gyfer y refferendwm ar annibyniaeth, Senedd yr Alban ac etholiadau lleol.
"Yn yr Alban mae pobl 16 ac 17 oed yn mynd allan i bleidleisio mwy na phobl 18-24 oed - pleidleisiodd 75% o bobl 16 a 17 yn y refferendwm i'w gymharu 芒 54% o bobl 18-24.
"Fe wnaeth pobl 16 ac 17 hefyd asesu mwy o wybodaeth o wahanol ffynonellau na unrhyw gr诺p oedran arall. Da ni hefyd yn gwybod mai'r cynharaf y bydd rhywun yn dechrau pleidleisio, y mwyaf tebygol ydyn nhw i bleidleisio yn y dyfodol.
"Mae'r model Albanaidd yn dangos fod pobl ifanc yn fwy na parod i bleidleisio, ac os ydy'r patrwm yn parhau fe fydd yn llwyddiant yng Nghymru hefyd."
Un ddadl yn erbyn rhoi'r bleidlais i bobl ifanc yw eu bod nhw yn fwy tebygol o gael eu dylanwadu yn hawdd, neu ddilyn patrwm pleidleisio eu rhieni.
"Mae lot o bobl yn bychanu pleidleiswyr ifanc," meddai Jess.
"'Da ni wedi bod yn gweithio mewn ysgolion er mwyn ffeindio syniadau i wella addysg wleidyddol cyn etholiadau flwyddyn nesaf ac mae'r bobl ifanc 'ma yn annibynnol ac yn llawer mwy engaged na phobl h欧n.
"Does ddim tystiolaeth o'r Alban bod hi'n hawdd dylanwadu ar y bobl ifanc. I ddweud gwir, gan fod pobl 16 a 17 yn asesu mwy o lenyddiaeth o ffynonellau ehangach, mae mwy o awch i asesu'r dystiolaeth cyn penderfynu ar eu pleidlais."
Ran amlaf y boblogaeth h欧n yw'r mwyaf brwd i bleidleisio, fel esbonia Jess: "Mae'n wir dweud bod pobl h欧n yn dueddol o bleidleisio mewn niferoedd uchel ac mai pobl 18-35 oed sy'n pleidleisio leiaf aml, yn draddodiadol.
"Aeth yr Alban yn erbyn y graen gyda phobl ifanc 16 a 17 oed yn pleidleisio mewn niferoedd mwy na phobl 18-24 oed, ond roedd hyn dal yn is na phobl h欧n.
"Mae'n bwysig iawn cofio hefyd bod y refferendwm annibyniaeth yn yr Alban wedi cael lot fawr o sylw, ac mae her yma yng Nghymru i adael i bobl ifanc wybod am eu hawl i bleidleisio mewn etholiad [etholiadau'r Cynulliad] sydd 芒 thua 45% yn pleidleisio ran amlaf.
"I fod yn realistig dyle ni ddisgwyl i'r turnout ar gyfer pobl 16 a 17 flwyddyn nesaf fod ychydig yn is na'r cyfartaledd, ond fe ddylai gynyddu dros y blynyddoedd nesaf wrth i addysg am wleidyddiaeth wella - mae hwn yn brosiect hirdymor."
"Mae'n hanfodol bwysig bod rhoi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn mynd law yn llaw ag addysg wleidyddol mewn ysgolion. Ar y funud mae'r wybodaeth yn eithaf bras, ac mae'n arwain at ddealltwriaeth gyfyngedig iawn am wleidyddiaeth ymysg y boblogaeth oedolion.
"Mae gennym ni siawns i edrych ar bethau'n wahanol, ond wneith o ond gweithio os 'da ni'n sicrhau bod addysg gwleidyddiaeth yn cael ei ddysgu ym mhob ysgol.
"Mae angen gwneud yn si诺r ei fod yn fwy effeithiol na'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd, a dyle ni fod yn edrych ar bethau fel etholiadau ffug a gadael i bobl ifanc redeg ymgyrchoedd eu hunain. Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn cymryd yr arweinyddiaeth ac yn cael eu cynnwys. Mae ein gwaith yn dangos yn glir bod pobl ifanc yn amlwg eisiau gwneud hyn."
Hefyd o ddiddordeb: