Ymgyrchwyr am atal codi tai newydd ar orlifdir

Ffynhonnell y llun, Leigh Adams

Mae'n rhaid rhoi'r gorau i godi tai newydd ar orlifdiroedd yng Nghymru, yn 么l ymgyrchwyr.

Mae ffigyrau yn dangos fod dros 2,000 o dai wedi cael caniat芒d cynllunio rhwng 2016 a 2019 mewn ardaloedd sydd 芒 risg o lifogydd.

Yn dilyn difrod stormydd Ciara a Dennis mae rhai yn cwestiynu doethineb hyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn tynhau'r rheolau, ond mae rhai yn rhoi'r bai ar y Cynulliad am wrthdroi penderfyniadau cynghorau lleol mewn rhai achosion.

Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf cafodd cynlluniau i godi 2,159 o dai ar orlifdiroedd eu cymeradwyo gan gynghorau Cymru, gyda 246 o dai yn cael eu gwrthod.

Dywedodd Dr Doug Parr, prif wyddonydd Greenpeace UK, fod hyn yn union fel cynllunio i greu argyfwng.

"Pam ydyn ni'n cynllunio i godi mwy o gartrefi mewn llefydd sydd 芒 risg uchel o lifogydd pan rydyn ni'n gwybod fod y sefyllfa ond am waethygu oherwydd yr argyfwng hinsawdd?" meddai.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio fod y llifogydd diweddar wedi dangos yn glir y peryglon o adeiladu tai mewn ardaloedd sydd 芒 risg uchel o lifogydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth sawl ardal yng Nghymru, fel Nantgarw, ddioddef effeithiau llifogydd yn dilyn stormydd diweddar

Mae Llywodraeth Cymru wedi codi cwestiynau am r么l cynghorau sir wrth roi caniat芒d cynllunio.

Mae adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru yn dweud fod 652 o gynlluniau gafodd eu cymeradwyo yn arwydd o "barodrwydd awdurdodau lleol i roi caniat芒d i ddatblygiadau mewn ardaloedd ble mae o risg llifogydd".

O'r 652 o gartrefi, roedd 167 mewn ardaloedd lle nad oedd unrhyw amddiffynfeydd rhag llifogydd.

Mae awdurdodau lleol yn ceisio cael cydbwysedd rhwng darparu mwy o gartrefi, a diogelu'r amgylchedd.

Ymhlith datblygiadau diweddar mewn ardaloedd risg, mae 33 fflat wrth Afon Rheidol sy'n rhan o gynlluniau ailddatblygu cae clwb p锚l-droed Aberystwyth.

Mae yna gynllun arall wrth gaeau chwarae yng Nglyn Nedd, gyda'r bwriad o godi 10 o gartrefi.

Bydd cynlluniau i godi 77 o gartrefi newydd mewn ardal gafodd ei tharo gan lifogydd yn y gorffennol yn cael eu hystyried gan gynghorwyr Sir Ddinbych ddydd Mercher.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Stad Glasdir yn Rhuthun ei tharo gan lifogydd yn Nhachwedd 2012

Mae swyddogion cynllunio wedi cymeradwyo codi'r tai ar Stad Glasidr, sy'n rhan o orlifdir Afon Clwyd yn Rhuthun.

Daw hyn er gwaetha'r ffaith fod gwaith o godi 120 o dai ar y safle wedi wynebu oedi oherwydd llifogydd yn 2012.

Yn 么l rhai o'r trigolion fe gawson nhw sicrwydd ar y pryd fod y risg o lifogydd yn isel.

Ond mae rhai cynghorwyr ac eraill yn rhoi rhywfaint o'r bai ar Lywodraeth Cymru - gan eu cyhuddo o anwybyddu pryderon lleol.

Ffynhonnell y llun, Rob Jones

Disgrifiad o'r llun, Mae'r safle yma yn Yr Orsedd wedi derbyn caniatad cynllunio

Cafodd cynlluniau i godi 130 o dai yn Yr Orsedd eu gwrthod yn unfrydol gan gynghorwyr Wrecsam yn Ionawr 2019 am eu bod yn poeni am berygl llifogydd o Afon Alun.

Ond fis diwethaf cafodd y cynghorwyr wybod fod y penderfyniad wedi ei wrthdroi gan Julie James, gweinidog tai Cymru.

"Mae Llywodraeth Cymru yn dweud un peth ond yn gwneud rhywbeth gwanhaol," meddai Hugh Jones, cynghorydd sir lleol.

"Mae pobl sy'n byw gerllaw yn ei chael hi bron yn amhosib cael yswiriant i'w tai, a bydd y broblem ond yn gwaethygu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Crughywel ym Mhowys ar 么l i'r Afon Wysg orlifo ei glannau yn ddiweddar

Mae Llywodraeth Cymru yn y broses o gryfhau ei pholisi cynllunio, "yn rhannol fel ymateb i'r nifer fawr o gartrefi sydd wedi cael caniat芒d cynllunio mewn ardaloedd o risg uchel ers 2015".

Dywedodd llefarydd eu bod am sicrhau "fod datblygiadau newydd, cartrefi a chymunedau, wedi eu diogelu rhag risg llifogydd, yn ystyried risg i'r hinsawdd ac yn annog addasu ar gyfer newid hinsawdd".

Bydd hyn yn golygu fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn llunio mapiau risg newydd.

"Ni ddylai datblygiadau newydd fod mewn ardaloedd sydd 芒 risg uchel o lifogydd, mae'r goblygiadau yn rhy ddifrifol, fel rydym wedi ei weld yn ddiweddar," meddai Jeremy Parr, pennaeth rheolaeth risg llifogydd gyda'r corff.

"Lle mae yna ystyriaeth, dim ond datblygiadau lle gellir dangos fod modd rheoli risg y dylid cael eu lleoli mewn ardaloedd sydd 芒 risg o lifogydd."

Dywedodd yr AC Ceidwadol, Andrew RT Davies y byddai ei blaid ef yn rhoi'r gorau i'r "arfer anghyfrifol o adeiladu tai ar orlifdir", a dynodi ardaloedd oedd 芒 risg uchel o lifogi fel tir "belt glas".