Coronafeirws: Gostyngiad brys i gyfraddau llog
- Cyhoeddwyd
Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi gostyngiad brys i gyfraddau llog wrth geisio diogelu'r economi yn wyneb haint coronafeirws.
Bydd y raddfa yn gostwng o 0.75% i 0.25% - yn gyfartal 芒'r lefel isaf o fenthyca erioed.
Daw'r cyhoeddiad wrth i'r Canghellor Rishi Sunak baratoi i gyhoeddi manylion ei gyllideb ddydd Mercher.
Yn y cyfamser, mae arweinwyr busnes yng Nghymru wedi gofyn am gymorth arbennig i fusnesau bach.
Yn 么l Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru mae angen i Lywodraeth y DU gefnogi busnesau sy'n delio ag "ansicrwydd oherwydd coronafeirws".
Maen nhw'n apelio arno i sefydlu cronfa arbennig ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig sydd ddim yn gymwys i dderbyn t芒l salwch statudol.
Dywedodd Ben Francis, cadeirydd polisi'r ffederasiwn: "Wrth i fusnesau bach ddelio ac ymddangosiad coronafeirws, mae angen i Lywodraeth y DU gydweithio yn effeithiol a Llywodraeth Cymru ar y materion yma.
"Byddai cyflwyno cronfa arbennig ar gyfer y rhai sydd ddim yn gymwys i dderbyn tal salwch statudol, fel pobl hunangyflogedig, yn un ffordd o wneud hyn.
"Rydym yn wynebu'r sefyllfa yma gyda'n gilydd, a dyna'r neges y mae'n rhaid i lywodraeth y DU gyflwyno yn y gyllideb heddiw."
Datganoli trethi
Fe wnaeth y ffederasiwn hefyd alw am ddatganoli pwerau i drethu teithwyr awyr i Lywodraeth Cymru.
Dywed Mr Francis y gallai treth o'r fath roi "hwb mawr i fusnesau yng Nghymru, a'n gosod ar lefel cyfartal 芒'r Alban a Gogledd Iwerddon sydd eisoes 芒 rheolaeth ar y dreth".
Mae Plaid Cymru wedi galw ar y Canghellor i ddatganoli rhagor o bwerau treth i Gymru gan gynnwys y dreth hedfan, Treth ar Werth, a threthi corfforaethol.
Dywedodd Ben Lake AS, llefarydd Trysorlys Plaid Cymru: "Mae'n rhaid i'r Trysorlys roi grymoedd ariannol i Gymru yn ystod y cyfnod ansicr yma.
"Fe fyddai hyn yn golygu creu system drethi sy'n rhoi hwb i economi Cymru."
Eisoes mae llywodraeth Lafur Cymru wedi gofyn i'r Canghellor gynnig pecyn o fuddsoddiadau er mwyn cryfhau'r economi Gymreig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2020