大象传媒

Cyhoeddi carfan Cymru C i herio Lloegr yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Cymru CFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma fydd y drydedd flwyddyn yn olynol i'r g锚m gael ei chynnal

Mae carfan Cymru C wedi'i chyhoeddi er mwyn herio Lloegr C ar Yr Oval yng Nghaernarfon mewn g锚m gyfeillgar ar 24 Mawrth.

Mae Cymru C yn d卯m o chwaraewyr Cymreig gorau Uwch Gynghrair Cymru, tra bod carfan Lloegr C yn cael ei ddewis o'r Gynghrair Genedlaethol.

Met Caerdydd a'r Barri yw'r clybiau sydd 芒'r nifer fwyaf o chwaraewyr yn y garfan, gyda phump o'r ddau glwb.

Dyma fydd y drydedd flwyddyn yn olynol i'r g锚m gael ei chynnal, ac mae pump o'r chwaraewyr wedi'u dewis i fod yn rhan o'r garfan am y trydydd tro.

Y rheiny ydy Kayne McLaggon a Chris Hugh o'r Barri, Eliot Evans o Met Caerdydd, Aeron Edwards o'r Seintiau Newydd a phrif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru - Chris Venables o'r Bala.

'Cefnogwyr angerddol y Cofis'

Mae Mark Jones, rheolwr Cymru C, wedi dewis tri aelod o d卯m Caernarfon hefyd - Alex Ramsay, Leo Smith a Darren Thomas.

Lloegr oedd yn fuddugol o 3-2 yn y g锚m yn 2018 yn Y Barri, a g锚m gyfartal 2-2 oedd y canlyniad yn Salford y llynedd.

"Ry' ni'n edrych ymlaen at chwarae'r g锚m yng nghartref CPD Tref Caernarfon," meddai Jones.

"Ry' ni'n gwybod bydd cefnogwyr angerddol y Cofis yn dod i allan i gefnogi carfan Cymru C yn Yr Oval yn ogystal 芒'r rheiny yn yr ardaloedd cyfagos hefyd, ac ry' ni'n hynod gyffrous i ddod 芒 ph锚l-droed rhyngwladol i'r ardal."

Carfan Cymru C

骋么濒-驳别颈诲飞补颈诲

Connor Roberts (Aberystwyth, ar fenthyg o'r Seintiau Newydd), Alex Ramsay (Caernarfon).

Amddiffynwyr

Callum Roberts (Cei Connah), Nathan Peate (Derwyddon Cefn), Joel Edwards (Met Caerdydd), Emlyn Lewis (Met Caerdydd), Dylan Rees (Met Caerdydd), Chris Hugh (Y Barri), Luke Cummings (Y Barri).

Canol cae

Leo Smith (Caernarfon), Darren Thomas (Caernarfon), Kane Owen (Penybont), Clayton Green (Y Barri), Aeron Edwards (Y Seintiau Newydd).

Ymosodwyr

Eliot Evans (Met Caerdydd), Will Evans (Met Caerdydd), Chris Venables (Y Bala), Kayne McLaggon (Y Barri).

Ieuenctid

Lee Jenkins (Aberystwyth), Evan Press (Y Barri).