大象传媒

Coronafeirws: Pleidiau yn gohirio eu cynadleddau

  • Cyhoeddwyd
Liberal Democrat and Plaid Cymru signsFfynhonnell y llun, 大象传媒/Getty Images

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yw'r blaid ddiweddara i ohirio eu cynhadledd wleidyddol oherwydd pryderon am coronafeirws - roedd hi fod i gael ei chynnal yn Abertawe penwythnos nesaf.

Eisoes roedd Llafur Cymru wedi gohirio eu cynadleddau gwleidyddol ym mis Mawrth, gyda Phlaid Cymru yn penderfynu canslo eu cynhadledd nhw.

Roedd Plaid fod i gynnal eu cynhadledd wanwyn yn Llangollen ar 20 a 21 Mawrth, gyda chynhadledd flynyddol Llafur Cymru yn Llandudno rhwng 27 a 29 Mawrth.

Mae 25 achos o coronafeirws wedi'u cadarnhau yng Nghymru hyd yn hyn, gyda'r un cyntaf yn cael ei gadarnhau yn y gogledd ddydd Iau.

Mewn datganiad nos Iau dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Doedd e ddim yn benderfyniad hawdd ond 'dyn ni ddim am, o bosib, beryglu iechyd, unrhyw un.

"Byddwn felly yn cynnal cynhadledd fwy yn yr hydref ond yn yr un lle ac felly bydd modd trosglwyddo trefniadau gweinyddol."

Yn gynharach dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Dydy hwn ddim yn benderfyniad gafodd ei gymryd yn ysgafn, yn enwedig gyda 14 mis yn unig nes etholiad y Cynulliad.

"Ond, iechyd a lles ein haelodau, cefnogwyr a rhanddeiliaid yw'r mater pwysicaf.

"Rydyn ni'n credu mai canslo'r gynhadledd yw'r peth cyfrifol i'r blaid ei wneud o dan yr amgylchiadau presennol."

'Meddwl yn ofalus'

Dywed Llafur Cymru y bydd eu cynhadledd yn cael ei chynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dywedodd prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford: "Ar adeg pan mae Llywodraeth Llafur Cymru yn ffocysu ar ymateb i her enfawr coronafeirws rwyf wedi penderfynu na fyddai'n beth iawn i dynnu gweinidog y llywodraeth o'u dyletswyddau.

"Rwy'n edrych ymlaen i'r adeg pan fydd y gynhadledd yn cael ei aildrefnu.

"Dydy Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ddim yn awgrymu canslo digwyddiadau eraill yng Nghymru, ond rydym yn cynghori pawb i feddwl yn ofalus, a gofyn a fyddai hynny yn cynrychioli'r defnydd gorau o amser ac adnoddau yn wyneb y sefyllfa bresennol."