Coronafeirws: 'Posib iawn' y bydd rhaid i henoed hunan ynysu
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod hi'n "bosib iawn" y bydd henoed yn cael cyngor i hunan ynysu am bedwar mis er mwyn eu hamddiffyn rhag coronafeirws.
Byddai camau o'r fath yn golygu gofyn i bobl aros yn eu cartrefi heb gael ymwelwyr, ac i fwyd a meddyginiaeth gael eu gadael ar eu stepen ddrws gan eraill.
Dywedodd Vaughan Gething bod angen cymryd "camau eithriadol" er mwyn taclo'r haint ac achub bywydau.
Daw hynny wedi i Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Matt Hancock gadarnhau bod paratoadau'n cael eu gwneud er mwyn ynysu pobl dros 70 oed.
'Er eu lles nhw'
"Bydd camau yn cael eu cymryd dwi'n si诺r, a hynny ddim yn y dyfodol pell, fydd yn gofyn i lawer mwy o bobl aros adref am gyfnod hir," meddai Mr Gething ar raglen 大象传媒 Politics Wales.
Ychwanegodd y gallai'r "camau eithriadol" olygu gofyn i henoed hunan ynysu am hyd at bedwar mis.
"Mae'n bosib iawn y bydd yn rhaid i ni wneud y dewis yna i roi'r cyngor hwnnw i'r cyhoedd dros y dyddiau ac wythnosau nesaf, dyw hynny ddim yn syndod.
"Yr her yw pryd, ac yna beth 'dyn ni'n ei wneud i ddarparu iechyd a gofal i'r bobl yna yn ogystal 芒'u cyflenwad bwyd arferol."
Wrth siarad am fesurau tebyg ar Sky News dywedodd Mr Hancock y byddai hynny'n "gofyn llawer o'r henoed a phobl fregus, ond bod hynny er eu lles eu hunain".
Ddydd Sadwrn cafwyd cadarnhad bod 21 o bobl bellach wedi marw o Covid-19 yn y DU, pob un hyd yn hyn dros 60 oed neu 芒 phroblemau iechyd eraill eisoes.
Ar draws y DU mae 1,140 achos o coronafeirws wedi eu cadarnhau - gyda 60 yng Nghymru - ond bellach dim ond cleifion yn yr ysbyty sydd yn cael eu profi am yr haint.
Cau ysgolion?
Wrth siarad yn gynharach ddydd Sul ar raglen Sunday Supplement 大象传媒 Radio Wales, dywedodd Mr Gething ei fod yn credu "ein bod ni 10 i 14 wythnos i ffwrdd o uchafbwynt" yr haint.
"Hyd yn oed ar 么l hynny fe fydd heriau hefyd felly bwriad y strategaeth oedi yw gadael i'n gwasanaethau ni, yn enwedig y gwasanaeth iechyd, i fod mewn sefyllfa i ymdopi gyda'r llif sylweddol o bobl s芒l rydyn ni'n disgwyl," meddai.
Ychwanegodd Mr Gething na fyddai cau ysgolion ar hyn o bryd o reidrwydd yn gam doeth, yn enwedig os oedd yn golygu y gallai'r baich gofal plant ddisgyn ar rieni oedd yn gweithio, neu neiniau a theidiau h欧n.
Ond fe allai hynny "fod yn effeithiol nes ymlaen", meddai, ac mae'n "bosib" y gallai hynny bara hyd at 16 wythnos.
"Fyddwn ni ddim yn cau ysgolion fory," meddai. "Dydy hynny ddim am ddigwydd."
Mae nifer o ddigwyddiadau a gemau chwaraeon yng Nghymru eisoes wedi'u gohirio, tra bod y gwasanaeth iechyd hefyd wedi gohirio llawdriniaethau sydd ddim yn rhai brys.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - yr ardal ble mae nifer yr achosion yng Nghymru ar ei uchaf - hefyd wedi cyhoeddi cyfyngiadau ar oria ymweld i holl ysbytai'r dalgylch.
Ychwanegodd Vaughan Gething y bydd "rhai o'r penderfyniadau fydd yn gorfod cael eu gwneud yn yr wythnosau nesaf yn amhoblogaidd gyda llawer o bobl".
"Ond fe fyddan nhw dal yn benderfyniadau fydd yn cael eu gwneud gydag ystyriaeth o 'a fydd hyn yn cadw mwy o bobl Cymru yn saff ac yn fyw'," meddai.
Ychwanegodd: "Nid dim ond y misoedd nesaf fydd yn cael eu heffeithio - mae'r mesurau 'dan ni wedi cymryd nawr yn golygu mwy na thebyg y bydd yr effaith ar berfformiad y GIG yn cael ei deimlo am sawl blwyddyn eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020