大象传媒

Pryd gafodd Eisteddfod yr Urdd ei chanslo ddiwethaf?

  • Cyhoeddwyd
Plant yn nillad yr Urdd gyda theganau Mr Urdd yn Eisteddfod yr Urdd

Mae mudiad Yr Urdd wedi cyhoeddi fod Eisteddfod yr Urdd 2020 yn cael ei gohirio, er siom i drefnwyr a chystadleuwyr, a cholled ariannol i'r mudiad.

Ydy hyn wedi digwydd o'r blaen?

Ers dechrau cynnal Eisteddfodau'r Urdd yn y 1930au, dim ond rhyfel a Chlwy'r Traed a'r Genau sydd wedi arwain at ganslo neu ohirio eisteddfod genedlaethol y mudiad.

Chafodd Eisteddfod yr Urdd mo'i chynnal rhwng 1941 a 1945 oherwydd yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro ei gohirio yn 2001 oherwydd Clwy'r Traed a'r Genau, gyda'r penderfyniad yn cael ei wneud tua'r un adeg 芒'r tro yma,

Beth ddigwyddodd yn 2001?

Cafodd Eisteddfod yr Urdd Caerdydd ei gohirio tan 2002 ond fe gafodd g诺yl ei darlledu ar radio, teledu a'r we yn lle yn 2001 i "ddathlu doniau ieuenctid Cymru".

Roedd G诺yl yr Urdd 2001 yn cael ei darlledu o ddau lwyfan mewn dwy ganolfan deledu, un yn stiwdio Barcud-Derwen yng Nghaernarfon a'r llall yn stiwdio Agenda, Llanelli.

Fe ganodd Mirain Haf a Fflur Wyn ddeuawd - gyda Fflur ar y llwyfan yn Llanelli a Mirain yng Nghaernarfon.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mirain Haf a Fflur Wyn yn canu deuawd mewn dau le gwahanol yn 2001

Roedd 35 o gystadlaethau yn cael eu llwyfannu dros dridiau gydag un enillydd i bob cystadleuaeth a'r beirniaid yn gwylio ar sgr卯n.

Roedd dwy brif seremoni'r dydd hefyd a - enillwyd tlws y diwrnod olaf gan enillydd y llefaru dan 25, sef Catherine Ayres sydd bellach yn actores adnabyddus.

Ymhlith enillwyr y prif seremon茂au roedd Iwan Rhys, Sara Huws, Luned Emyr ac Owain Si么n.

Roedd y rhai oedd yn cymryd rhan yn gyn enillwyr cenedlaethol yn y cystadlaethau yn yr Eisteddfodau dros y pum mlynedd blaenorol a gafodd eu dewis o ragwrandawiadau cyn yr 诺yl.

Beth fydd yn digwydd yn 2020?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fydd dim golygfeydd fel rhain yn 2020

Mae'r Urdd wedi dweud y bydd "yn trafod yn barhaus gyda'i bartneriaid darlledu, S4C a 大象传媒 Radio Cymru, o ran yr opsiynau i ddathlu doniau'r aelodau ar blatfform gwahanol yn 2020".

Felly mae'n bosib y bydd rhywbeth tebyg i 2001 yn cael ei gynnal, ond mae'r coronafeirws yn gosod her wahanol gan mai haint oedd yn effeithio ar anifeiliaid, nid pobl, fel arfer, oedd Clwy'r Traed a'r Genau.

Dywedodd y mudiad y bydd Eisteddfod yr Urdd 2020 nawr yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych ym mis Mai 2021. Bydd Eisteddfod Sir Gaerfyrddin 2021 yn symud i 2022.

Beth am yr Eisteddfod Genedlaethol?

Dydi'r Eisteddfod Genedlaethol erioed wedi cael ei chanslo mewn adeg o heddwch. Y tro diwethaf iddi gael ei chanslo oedd yn 1914 oherwydd toriad y Rhyfel Byd Cyntaf.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eisteddfod y Traed a'r Genau, Dinbych

Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, yn 1940, cafodd ei darlledu ar y radio o Fangor yn hytrach na'i chynnal fel digwyddiad - a'i galw yn Eisteddfod ar yr Awyr.

Fe gafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yn Ninbych 2001 er gwaethaf argyfwng Clwy'r Traed a'r Genau gyda rhai yn feirniadol o'r penderfyniad.

O ran Tregaron ym mis Awst 2020, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud eu bod yn "parhau i fonitro datblygiadau ynghyd 芒'r canllawiau a'r cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ein partneriaid allweddol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Hefyd o ddiddordeb: