大象传媒

Coronafeirws: 拢200m i helpu busnesau bach ymdopi

  • Cyhoeddwyd
ArianFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion pecyn gwerth dros 拢200m i helpu busnesau bach ymdopi yn sgil y nifer cynyddol o achosion o coronafeirws.

Bydd siopau, busnesau hamdden a lletygarwch yn cael gostyngiad yn eu trethi, a rhai ddim yn gorfod talu trethi o gwbl, a bydd yna gynllun grantiau ar wah芒n i fusnesau nad sy'n gymwys am rheiny.

Daw'r cyhoeddiad wedi addewid o 拢835m gan Lywodraeth y DU i Gymru ar gyfer helpu busnesau.

Mae un person wedi marw o'r haint yng Nghymru ac mae Llywodraeth y DU yn cynghori pobl i osgoi teithio'n ddiangen ac i weithio o'u cartrefi os yw hynny'n bosib.

Pwy sy'n gymwys am ba gymorth?

Bydd siopau a busnesau hamdden a lletygarwch sydd 芒 gwerth trethadwy hyd at 拢51,000 yn cael gostyngiad ardrethi busnes o 100%.

Bydd tafarndai gyda gwerth trethadwy rhwng 拢51,000 a 拢100,000 yn cael gostyngiad o 拢5,000 ar eu bil.

Bydd 拢100m pellach ar gael ar gyfer cynllun grant newydd i fusnesau bach sydd ddim yn gymwys i gael y gostyngiad ardrethi busnes newydd, a bydd manylion y cynllun yma'n cael eu cadarnhau "gynted 芒 phosib".

Beth yw barn busnesau bach?

Mae Aled Rees yn berchennog ar Siop y Pethe -聽siop Gymraeg yn Aberystwyth -聽a thri chwmni teithio, gan gyflogi wyth o bobl.

Mae'n credu y dylai fod rhagor o fesurau yn cael eu cyflwyno i atal busnesau bach聽rhag mynd i'r wal yn y cyfnod yma, a聽diogelu miloedd o swyddi.

Dywedodd wrth raglen Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru fore Mawrth fod effaith y feirws ar ei fusnesau wedi bod yn "erchyll".

"Gyda Teithiau Tango - teithiau sy'n mynd draw i'r Ariannin聽- mae'r wlad wedi cau ei drysau聽felly mae pob taith eleni wedi cael ei ganslo yn barod," meddai.

"Mae teithiau Cambria -聽Cambrian Tours a Cambrian DMC. Dau gwmni sy'n dod 芒 miloedd o bobl mewn i Gymru yn flynyddol -聽mae 80% o deithiau wedi canslo yn barod, wedi'u聽gohirio tan bwy a 诺yr.

"Bydden i'n dweud bod yn agos i 拢500,000 o drosiant y cwmni wedi cael ei ganslo o fewn yr wythnos ddiwethaf."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Aled Rees o Siop y Pethe fod effaith y feirws ar fusnesau wedi bod yn "erchyll"

Cytunodd fod torri cyfraddau busnes i'w groesawu, ond na fyddai'n cael llawer o effaith ar ei fusnesau ef.

"Dyw faint y ni'n talu - ni'n talu 拢600 y mis dwi'n credu yn Siop y Pethe -聽ddim yn mynd i聽gyffwrdd dim byd o ran achub y聽busnes," meddai Mr Rees.

"Mae聽trosiant y cwmn茂au lawr shwt gymaint, gyda dim gobaith o unrhyw beth聽yn dod mewn am y misoedd nesaf,聽dyw arbed 拢600 y mis ddim yn mynd i聽neud unrhyw beth."

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dod dan bwysau i ddilyn esiampl Lloegr a gohirio trethi busnes rhai siopau a bwytai am flwyddyn.

Wedi'r cyhoeddiad o 拢360m ychwanegol y flwyddyn i Gymru yn y gyllideb yr wythnos, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford groesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i roi 拢475m yn rhagor ddydd Llun, gan ddod 芒'r cyfanswm i 拢835m.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Rebecca Evans bydd y gostyngiad trethi yn helpu, ond bydd busnesau'n dal yn dioddef yn sgil llai o gwsmeriaid

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans: "Rydym yn neilltuo pob ceiniog o'r cyllid y byddwn yn ei dderbyn o ganlyniad i gynlluniau Llywodraeth y DU sydd wedi'u cyhoeddi yn Lloegr yr wythnos ddiwethaf i gefnogi busnesau yng Nghymru.

"Ond rwyf yn gwybod na fydd helpu busnesau gyda'u biliau ardrethi'n ddigon i'w gwarchod rhag y gostyngiad difrifol mewn cwsmeriaeth mae llawer yn ei brofi wrth i'r achosion o coronafeirws gynyddu.

"Byddwn yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu'n gyflym ac yn bendant er mwyn darparu cefnogaeth sylweddol iawn i fusnesau bregus a'u cyflogeion."