大象传媒

Y cwmni bach o'r Canolbarth ddaeth yn frand byd-enwog

  • Cyhoeddwyd
Casgliad o ffrogiau Laura Ashley cafodd eu arddangos yn Amgueddfa Ceredigion yn 2017
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Casgliad o ffrogiau Laura Ashley cafodd eu arddangos yn Amgueddfa Ceredigion yn 2017

Mae brand blodeuog Laura Ashley wedi bod yn gyfarwydd ar hyd a lled y byd ers degawdau. Bellach, mae'r cwmni - oedd yn cyflogi dros 800 o weithwyr yng Nghanolbarth Cymru ar un adeg - wedi mynd i ddwylo'r gweniyddwyr. Dyma Cymru Fyw yn cymryd cipolwg ar hanes y cwmni ac ar y ffasiwn wnaeth fynd 芒 bryd cenhedlaeth gyfan - o gystadleuwyr cerdd dant a gwesteion priodas i Diana, Tywysoges Cymru.

(Lluniau o arddangosfa ffasiwn Laura Ashley yn Amgueddfa Ceredigion, 2017)

Pwy oedd Laura Ashley?

Laura Ashley oedd yn gyfrifol am liwio'r diwydiant ffasiwn yn ystod yn 1970au, yn 么l y steilydd Huw 'Fash' Rees.

"Roedd yn gynllunydd wnaeth ddylanwadu ar gymaint o gynllunwyr eraill," meddai. "Daeth 芒 steil cefn gwlad i'r ddinas. Roedd ei ffrogiau diniwed, ffwrdd 芒 hi yn cael eu gwisgo a'u casglu gan llu o ddilynwyr i gyd yn prynu fewn i'r ddelwedd Prydeinig."

Ganwyd Laura Mountney yn Nowlais, Merthyr Tudful. Cafodd ei haddysg yn Llundain ond daeth yn 么l i Gymru cyn yr Ail Ryfel Byd yn 1938 am flwyddyn cyn dychwelyd i'r ddinas lle cyfarfodd Bernard Ashley ac fe briododd y ddau yn 1949.

Yn 1953, dyma nhw'n sefydlu cwmni Laura Ashley gan ddylunio a phrintio defnydd yn eu cegin yn Llundain.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun o'r cynllunydd ifanc wrth ei gwaith

O'r cychwyn, roedd Laura'n defnyddio cynlluniau gwledig, rhamantaidd a blodeuog ar gyfer ei defnyddiau. Roedd yn bosib prynu'r sgarffiau drwy'r post i ddechrau ac yna fe'u gwerthwyd i siopau mawr Llundain fel John Lewis.

Cyswllt Cymreig

Ond roedd Laura yn awyddus iawn i ddychwelyd i Gymru, sef ysbrydoliaeth ei gwaith cynllunio. Sefydlodd bencadlys i'r busnes ym mhentref Carno ac agorwyd ffatr茂oedd ar draws gogledd a chanolbarth Cymru i gyflenwi'r holl angen.

"Daliodd stori'r gynllunwraig oedd yn printio defnydd ar bwrdd y gegin a'r casgliadau yn cael ei creu yng Nghymru dychymyg y diwydiant ffasiwn," meddai Huw Rees.

"Ond heb os, delweddau ffotograffiaeth ei merch Jane or casgliadau wnaeth ychwanegu at lwyddiant cwmni ddaeth yn adnabyddus am safon a steil arbennig," ychwanegodd.

Agorodd y siop Laura Ashley gyntaf yn Kensington yn 1968. Erbyn 1981 roedd yna 5,000 o siopau yn gwerthu'r cynnyrch oedd yn cynnwys dodrefn a phapur wal yn ogystal 芒 ffrogiau.

Roedd Diana, Tywysoges Cymru, yn un o ffans mwyaf enwog y brand ac ar 么l i lun ohoni'n gwisgo blows gan Laura Ashley gael ei gyhoeddi yn y wasg, bu'n rhaid i'r cwmni atal gynhyrchu am ychydig oherwydd y galw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y cwmni ar ei anterth yn y 1970au

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ydy rhai o'r rhain yn procio'r cof?

Bu farw Laura Ashley yn 1985, 10 niwrnod ar 么l cwympo lawr y grisiau yng nghartref ei merch ar ei phen-blwydd yn 60 oed.

Deufis yn ddiweddarach, fe roddwyd y cwmni ar y farchnad stoc ac amcangyfrifwyd gwerth y cwmni yn 拢200 miliwn.

Newid ffasiwn

Ond, roedd ffasiwn a chwaeth yn newid a gwneuthurwyr ym Mhrydain yn ddrud a chwmn茂au cynhyrchu ar fin symud i'r Dwyrain pell.

Yn dilyn problemau ariannol, fe geisiwyd newid hynt y cwmni yn y 1990au ond heb fawr o lwyddiant.

Fe achubwyd y cwmni i bob pwrpas yn 1998 gan Malayan United Industries a brynodd 40% o werth y cwmni.

Cafodd staff diwethaf ffatri Laura Ashley eu diswyddo yn 2005. Ym mis Rhagfyr 2018 fe gyhoeddodd y cwmni golled ariannol flynyddol o dros 拢14m. Erbyn heddiw mae'r cwmni yn nwylo'r gweinyddwyr wedi i drafodaethau i geisio achub y cwmni fethu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Laura Ashley yn enwog am ei chynlluniau gwledig, rhamantaidd a blodeuog

Hefyd o ddiddordeb: