大象传媒

Profi gweithwyr iechyd hanfodol am Covid-19

  • Cyhoeddwyd
coronafeirwsFfynhonnell y llun, 4X-image/Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ceisio ehangu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a hefyd yn dechrau profi gweithwyr iechyd am coronafeirws.

Mae 13 achos newydd o'r haint yn golygu fod cyfanswm swyddogol yr achosion yng Nghymru bellach yn 149.

Ond gan mai dim ond achosion yn yr ysbyty sydd yn cael eu profi ar hyn o bryd, mae'r awdurdodau wedi cydnabod fod y gwir nifer yn debygol o fod yn uwch.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru eu bod nhw bellach yn cynllunio "ar sail rhagdybiaeth fod yr haint yn lledu".

Angen y gweithlu

Yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru fore Mercher, dywedodd Dr Frank Atherton: "Mae angen i ni gadw staff allweddol yn y gweithle ble bynnag mae hynny'n bosib."

"Fe gyhoeddais rywfaint o ganllawiau ddoe i'r system iechyd pwy ddylai gael blaenoriaeth o ran cael prawf i sicrhau fod staff gofal iechyd hanfodol yn gallu dychwelyd yn gyflym i'r gweithlu, ble bynnag mae hynny'n briodol.

"Rwy'n cydnabod yn llwyr, wrth i ni gynyddu'r gallu i gynnal profion yng Nghymru ac ar draws y DU, fod angen i'r broses yna fynd tu hwnt i ofal iechyd i ofal cymdeithasol yn arbennig, ac i ysgolion hefyd.

"Ond mae yna sectorau eraill - yr heddlu, y gwasanaeth t芒n ac achub - y mae angen i ni gadw mewn cof.

"Bydd hyn yn effeithio ar bob agwedd o'r sector cyhoeddus a thu hwnt."

Dywedodd Dr Atherton hefyd fod yna ragdybiaeth fod coronafeirws yn "lledu'n eang yn y gymuned" ac mae cynlluniau'n cael eu llunio ar y sail yna, yn 么l prif swyddog meddygol Cymru.

Mae'r epidemig "yn amlygu ei hun ychydig yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad", meddai, ond does "dim rheswm i fod yn hunanfodlon" yng Nghymru am fod yr haint yn lledu'n llai cyflym na llefydd fel Llundain.

Ffynhonnell y llun, Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd rhai byrddau iechyd yng Nghymru wedi cynnal gwasanaeth profi am coronafeirws am gyfnod

Dywedodd fod "mwyafrif helaeth o bobl, ymhell dros 80%, o gael y salwch yma, yn cael salwch ysgafn ac yn gwella".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "cyflwyno profion coronafeirws i weithwyr gofal iechyd sy'n ymwneud 芒 chleifion rheng flaen sy'n wynebu gofal clinigol".

Ychwanegodd y byddan nhw hefyd yn gweithio'n agos gyda'r rheoleiddwyr proffesiynol a Llywodraeth y DU ar gynlluniau i ofyn i weithwyr sydd wedi ymddeol yn ddiweddar ddychwelyd i waith.

Erbyn dydd Mercher roedd nifer yr achosion yn 149, gyda dwy farwolaeth wedi eu cofnodi.

Fe gadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod "Coronafeirws Newydd (COVID-19) bellach yn cylchredeg ym mhob rhan o Gymru" ac o ddydd Iau ymlaen y byddan nhw'n rhoi diweddariad dyddiol ar nifer yr achosion "yn 么l y bwrdd iechyd y mae'r achosion hyn yn preswylio ynddo" yn hytrach nac am achosion yn 么l awdurdod lleol.

Cyngor pellach i ddod

Ddydd Llun, fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru gyngor newydd yn annog pobl i osgoi unrhyw deithiau nad sy'n gwbl angenrheidiol, a chymysgu 芒 grwpiau mawr.

Mae'r cyngor yna'n berthnasol i'r boblogaeth gyfan, ond yn allweddol bwysig yn achos unigolion dros 70 oed, pobl 芒 chyflyrau iechyd blaenorol a merched beichiog.

Bydd pobl 芒 chyflyrau iechyd penodol yn cael cyngor pellach gan eu meddyg teulu neu arbenigwr cyn diwedd yr wythnos yma, yn ymwneud 芒 hunan ynysu am hyd at 16 wythnos.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Yn 么l Dr Atherton, y gred yw bod tua 70,000 o bobl yn y categori hwnnw yng Nghymru.

Dywedodd ddydd Mercher bod mesurau sy'n atal pobl rhag mynd i lefydd fel tafarndai a chlybiau yn 么l yr arfer "yn gymesur, ar sail y wyddoniaeth, ac mae angen i bawb eu cadw mewn golwg".

"Dydy hi ddim yn briodol mwyach i bobl ymgynnull mewn grwpiau mawr," meddai.

"Fydd y mesurau yma ond yn gweithio os yw cymunedau a'r cyhoedd yn wirioneddol yn eu dilyn ac yn ymddwyn yn unol 芒 nhw."

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cau ysgolion, dywedodd bod dim penderfyniad eto ond eu bod yn "adolygu'r sefyllfa'n gyson".