大象传媒

Ateb y Galw: Yr actores Ceri Elen

  • Cyhoeddwyd
Ceri ElenFfynhonnell y llun, Ceri Elen

Yr actores ac awdur Ceri Elen sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Al Lewis yr wythnos diwethaf.

Mae Ceri yn adnabyddus i ffans Rownd a Rownd ar S4C, gan ei bod hi'n actio Fflur, sydd yn mynd drwy gyfnod anodd ar hyn o bryd, ar 么l cael diagnosis o ganser.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae troi y soffa i mewn i gar hefo mrawd a defnyddio pl芒t plastig glas i 'ddreifio' yn atgof cynnar iawn.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Alastair Mackenzie oddi ar Monarch of the Glen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y gyfres Monarch of the Glen yn dilyn hanes Archie wrth iddo adfer plasdy enfawr yn yr Alban

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na lot o rhain. Mae trio helpu i glirio paent pinc yn y dosbarth derbyn amser cinio (pan o'n i ym mlwyddyn 6), a defnyddio gormod o bapur tishw a chlogio'r toilet, a gweld d诺r pinc yn llifo at y dosbarth yn un o'r rhai cyntaf.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Wythnos dwytha'.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Lot. Gadel croen bananas yn y car lot rhy hir yn un.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae gen i dri. Parc Llanelian (wrth lle ges i fy magu) i edrych ar y m么r, fy nghartref yn Canton, Caerdydd, a Llangynog yn y canolbarth (lle gafodd Mam ei magu) yn y mynyddoedd.

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y noson ar 么l i fy nai bach gael ei eni. Roedd y byd wedi newid.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Work. In. Progress.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Unrhywbeth gan Haruki Murakami. Dwi wrth fy modd efo'r ffordd mae o'n cymysgu realaeth a ffantasi.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Mi fyswn i wir yn hoffi cyfarfod David Attenborough. Mae o'n arwr i mi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae David Attenborough wedi bod yn darlledu rhaglenni bywyd gwyllt ers 60 o flynyddoedd, ac yn arwr i nifer

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Enw fy nghar ydi Brian.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael parti mawr mewn cae yn edrych dros y m么r efo fy nheulu a ffrindiau. Mi fyddai pawb yn gallu cael yn union be' mae nhw ei eisiau i'w fwyta. Ac mi fyddai yna ddigon o gerddoriaeth drwy'r nos.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Ar hyn o bryd, unrhywbeth gan Bonobo (Simon Green). A dwi wrth fy modd efo Lang Lang yn chwarae Widmung.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cregyn gleision. Cyri llysieuol, reis a saag paneer. Affogato gydag amaretto.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Sarah Vaughan, y gantores jazz.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Dylan sioc mawr pan ddaeth Fflur yn 么l i'w fywyd a chyflwyno ei fab, Llew, iddo

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Martin Thomas

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 大象传媒 Cymru Fyw