大象传媒

Coronafeirws: Canslo G诺yl Fwyd Caernarfon 2020

  • Cyhoeddwyd
Maes Caernarfon dan ei sangFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Maes Caernarfon dan ei sang

Mae trefnwyr G诺yl Fwyd Caernarfon wedi cyhoeddi fod y digwyddiad eleni wedi'i ganslo yn sgil pryderon am coronafeirws.

Mae'r digwyddiad wedi tyfu i fod yn un o'r gwyliau bwyd mwyaf poblogaidd yn y gogledd-orllewin yn y blynyddoedd diwethaf.

Roedd yr 诺yl eleni i fod i gael ei chynnal ar 9 Mai.

Mewn datganiad, dywedodd y trefnwyr: "Yn sgil sefyllfa bresennol gyda'r feirws Covid-19, ac er mwyn atal ymlediad, mae G诺yl Fwyd Caernarfon wedi penderfynu peidio a chynnal g诺yl 2020.

"Mae hyn yn sicr yn siom i ni fel trefnwyr, ac yn si诺r o fod felly hefyd i'r stondinwyr, perfformwyr a'r miloedd sydd yn mynychu yn flynyddol.

"Ond ein blaenoriaeth ni yw iechyd a lles y cyhoedd, felly mae'n angenrheidiol i ni ddilyn canllawiau'r Llywodraeth i geisio atal lledaenu'r feirws.

"Rydym mor ddiolchgar am bob cefnogaeth yr ydym wedi ei gael i'r 诺yl. Heb y gefnogaeth honno, byddai yn amhosibl cynnig g诺yl rhad ac am ddim, sy'n cynnwys dros 120 o stondinau, cerddoriaeth fyw a gweithdai.

"Rydym wedi cynnal amryw o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn i godi arian er mwyn gallu cynnal yr 诺yl a bydd yr arian hwnnw nawr yn cael ei gadw er mwyn gallu cynnig g诺yl werth chweil yn 2021.

"Rydym yn cydymdeimlo yn fawr efo'r artistiaid a'r busnesau hynny sydd am ddioddef colledion ariannol dros y cyfnod nesaf, a byddwn ni fel criw gwirfoddol yn si诺r o fod allan yn y gymuned yn cynnig cymorth ble bo angen.

"Edrychwch ar 么l eich hunain a'ch gilydd."