大象传媒

Canslo arholiadau'r haf yng Nghymru achos coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Kirsty WilliamsFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaid gwneud penderfyniadau cyflym mewn cyfnod digyffelyb, medd Kirsty Williams

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd arholiadau TGAU a Lefel A yn digwydd yn yr haf.

Yn gynharach ddydd Mercher, fe gyhoeddodd y llywodraeth y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cau ddiwedd yr wythnos mewn ymateb i'r pandemig coronafeirws.

Dywedodd y gweinidog addysg, Kirsty Williams y byddai disgyblion oedd fod i sefyll arholiadau yn yr haf yn cael "gradd deg".

Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, Suzy Davies, fod y penderfyniad yn "anochel".

Ond fe ofynnodd am sicrwydd i'r disgyblion hynny oedd wedi gobeithio codi eu marciau yn yr haf wrth geisio am lefydd mewn prifysgolion.

"Rydym mewn cyfnod na welwyd ei debyg o'r blaen, un sy'n newid o awr i awr, ac mae gofyn i lywodraethau ym mhob rhan o'r byd wneud penderfyniadau yn gyflym," meddai Ms Williams wrth wneud y cyhoeddiad.

"Rydym yn cydnabod y gofid a'r pryder a achoswyd gan yr ansicrwydd am arholiadau'r haf.

"Heddiw fe wnes i gyfarfod 芒 Chymwysterau Cymru a CBAC i ystyried opsiynau sydd er budd pennaf ein dysgwyr.

"Rydym yn cydnabod nad oes unrhyw ddewisiadau hawdd, ond rydym yn gyt没n mai'r ffordd orau ymlaen yw peidio 芒 pharhau gydag arholiadau'r haf.

"Er mwyn cydnabod eu gwaith, dyfernir gradd deg i'r dysgwyr a oedd i fod i sefyll arholiadau TGAU a Lefel A yn ystod yr haf, gan dynnu ar ystod yr wybodaeth sydd ar gael.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fydd disgyblion TGAU a Lefel A ddim yn sefyll eu harholiadau eleni

"Byddwn yn gweithio gyda'r sector i gyhoeddi rhagor o fanylion yn fuan, ond roeddem am roi'r sicrwydd hwn ar y cyfle cyntaf posib.

"Ni fyddwn ychwaith yn defnyddio'r canlyniadau i gyhoeddi deilliannau mesurau perfformiad yn 2020."

Dywedodd Ms Williams y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cau erbyn dydd Gwener ar yr hwyraf, gan ddod 芒'r gwyliau Pasg ymlaen.

Ychwanegodd y bydd gan yr ysgolion "ddiben newydd" wedi'r gwyliau Pasg "i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus, gan gynnwys gweithwyr allweddol sy'n rhan o'r ymateb uniongyrchol i'r sefyllfa coronafeirws."

Mae'r cynlluniau hynny i gefnogi gweithwyr iechyd a gofal yn dal yn cael eu datblygu.

'Nid oes senario delfrydol'

Dywedodd corff Cymwysterau Cymru eu bod yn "croesawu'r camau pendant hyn gan Lywodraeth Cymru".

"Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, CBAC a chyd-reoleiddwyr y DU i sicrhau bod dysgwyr oedd i fod i sefyll eu harholiadau TGAU a Safon Uwch yn cael gradd deg i gydnabod eu gwaith," meddai llefarydd.

"Rydym yn gwerthfawrogi y bydd pobl am wybod mwy a byddwn yn rhannu manylion pellach cyn gynted ag y gallwn.

"Yn yr amgylchiadau eithriadol hyn gydag aflonyddwch byd eang, nid oes senario delfrydol ar gyfer arholiadau sydd, yn 么l eu natur, yn rhedeg fel digwyddiadau a reolir yn ofalus.

"Ein blaenoriaeth yw sicrhau tegwch i ddysgwyr tra'n dilyn cyngor iechyd y cyhoedd."