Sut fydd Radio Cymru yn ymateb i argyfwng coronafeirws?
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos hon fe ddaeth effaith coronafeirws yn fwy amlwg ar draws y wlad.
Yn y blog yma mae Rhuanedd Richards, golygydd Radio Cymru, yn esbonio sut bydd yr orsaf yn addasu er mwyn parhau i ddarlledu mewn cyfnod o ansicrwydd.
Mae'n golwg ni ar y byd yn newid yn gyflym. Pobl yn gweithio o adref, pobl yn cadw pellter oddi wrth ei gilydd, tai tafarn, bwytai ac addoldai wedi cau a phlant adref o'r ysgol.
Mae'n fyd dieithr ond y gobaith yw cadw rhai pethau yn gartrefol ac yn sefydlog. Mae lleisiau cyfarwydd Radio Cymru yn barod, os gallwn ni, i gadw cwmni i chi drwy bob newid. Lleisiau cyfarwydd ar amser cyfarwydd yn cyflwyno newyddion, gwybodaeth, cwmnïaeth ac adloniant i chi - dyna yw'r nod.
Ond rydym wedi penderfynu gwneud ambell newid bach dros y cyfnod nesaf er mwyn ymestyn ein gwasanaeth newyddion a gwybodaeth yn yr oriau brig, tra'n sicrhau bod yna ddigon o gwmnïaeth ac adloniant ar gael hefyd.
Addasu amserlen
O ddydd Llun ymlaen, byddwn yn symud ychydig o'n gwaith newyddiadurol o'r amserlen amser cinio er mwyn ymestyn y ddarpariaeth yn y boreau.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, ar ôl rhaglen John Hardy ben bore, mi fydd y Post Cyntaf yn cael ei ddarlledu tan 9 o'r gloch. Mi fydd yr hanner awr olaf (rhwng 08:30 a 09:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener) yn gyfle i'n gwrandawyr holi cwestiynau i arbenigwyr yn eu maes am y feirws a'i sgil effeithiau.
Tra bydd y Post Cyntaf wedi ei ymestyn, mi fydd Radio Cymru 2 hefyd yn darlledu o 7-9 y bore (o ddydd Llun i ddydd Gwener), gan roi dewis amgen i'r rheini sydd eisiau cerddoriaeth ac adloniant ben bore.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae hyn oll yn golygu na fydd rhaglen Aled Hughes yn dechrau tan 9 y bore ond bydd yn cael ei hymestyn tan 11. Bydd y rhaglen yn ymdrechu i wneud dau beth ychwanegol o wythnos nesaf ymlaen, sef dathlu ymdrechion ein gwirfoddolwyr cymunedol ar yr adeg anodd yma a phontio rhwng ein pobl ifanc a'u hysgolion yn dilyn y penderfyniad i'w cau.
O 11 y bore tan 1 y prynhawn, Shân Cothi fydd yn y gadair fawr ac yn cynnig ei chynhesrwydd a'i hwyl arferol - yn enwedig i'r rheini sy'n hunan-ynysu. Mae ei 'Chymanfa Gegin' eisoes yn boblogaidd wrth i bobl ddewis ambell emyn y maen nhw am ganu neu gyd-ganu yn eu cartrefi. Mi fydd Bore Cothi yn cynnwys bwletin estynedig am hanner dydd.
Ar ôl Dros Ginio rhwng 1 a 2 y prynhawn, Ifan Jones Evans fydd yn cadw cwmni i chi fel yr arfer rhwng 2 a 5 y prynhawn ac mi fydd yna gwis newydd ar gyfer y teulu cyfan bob dydd. Ond ar ddydd Gwener, wrth gwrs, mi fydd Tudur Owen, Dyl Mei a Manon Rogers yn mwydro ein pennau ni fel arfer er mwyn ceisio codi gwên.
Cynnal cerddoriaeth fyw
Mae byd ein cerddorion a'n perfformwyr yn sicr wedi newid gyda chyngherddau a gigs wedi eu canslo. Felly rydym wedi penderfynu creu 'Sesiynau Tŷ' - cyfle i gerddorion berfformio caneuon yn eu cartrefi; ambell gân newydd, ambell addasiad, ond digon o gyfle i ni fwynhau eu doniau.
Nid ydym am anghofio ein beirdd. Rydym yn gobeithio parhau gyda Talwrn y Beirdd ond ar ffurf fymryn yn wahanol.
Ni fydd hunan-ynysu a 'chadw pellter cymdeithasol' yn ffrwyno ein huchelgais a'n hawydd i ddarparu gwasanaethau amrywiol ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru a ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw. Mae'n sefyllfa heriol wrth reswm ond mae'r tîm yn benderfynol o fwrw'r maen i'r wal, er mwyn bod yn gwmni cynnes pan mae cymaint yn gorfod bod ar eu pen eu hunain a thrwy hynny - efallai y byddwn yn codi calon y genedl tra'n cyfleu'r wybodaeth ddiweddaraf, dros y misoedd nesaf.
Diolch am eich cefnogaeth. Gan gadw'ch pellter, rhannwch y neges gyda'ch cymdogion neu'ch cyfeillion ar y cyfryngau cymdeithasol.
Hefyd o ddiddordeb: