大象传媒

Coronafeirws: 70,000 o bobl i aros yn eu cartrefi

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford mai'r flaenoriaeth yw achub bywydau

Mae llythyron yn cael eu hanfon i'r 70,000 o bobl "mwyaf bregus" yn eu cynghori i aros yn eu cartrefi am 12 i 16 o wythnosau.

Dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford na ddylai'r bobl hyn adael eu tai o gwbl.

Hyd yma mae 12 o bobl yng Nghymru wedi marw ar 么l dod i gysylltiad 芒'r feirws.

Ychwanegodd Mr Drakeford y byddai penderfyniadau i gyfyngu ar symudiadau'r boblogaeth ehangach yn cael eu gwneud ar yr "amser cywir."

Fe fydd y 70,000 o'r bobl fwyaf bregus yn derbyn llythyr oddi wrth eu meddyg teulu neu ymgynghorydd meddygol.

"Am 12 i 16 wythnos i beidio 芒 gadael eu cartrefi o gwbl, fel bod ganddynt yr amddiffyn gorau posib oddi wrth y feirws."

Dywedodd y prif weinidog y bydd y feirws yn ymledu ar raddfa ehangach o hyn allan.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd mwy o bobl yn derbyn profion ar gyfer y feirws

Wrth gyfeirio at adroddiadau fod pobl yn heidio i'r mynyddodd a llecynnau glan y m么r ddydd Sadwrn, fe rybuddiodd Mr Drakeford fod y "cyngor yn gwbl glir" sef i gadw draw o eraill.

Dywedodd y byddai'n cwrdd 芒 swyddogion llywodraethau'r DU yn ddiweddarach ddydd Sul i drafod y grymoedd sydd ar gael iddo.

"Rwyf yn trafod a llywodraethau eraill i weld pa bwerau sydd gennym ac a ydym yn gallu eu defnyddio.

"Ni fyddaf yn oedi i'w defnyddio pe bai hynny yn angenrheidiol, " meddai.

Mewn cyfweliad teledu ddydd Sul dywedodd y byddai rhagor o brofion ar gael o'r wythnos nesaf ymlaen.

Byddai'r rhain ar gyfer pobl sy'n byw gyda rheini h欧n, yn enwedig gweithwyr iechyd.

Dywedodd y byddai hyd at 8,000 o brofion pob diwrnod, o'i gymharai 芒 800 ar hyn o bryd.