´óÏó´«Ã½

Sut i ofalu am eich iechyd meddwl wrth hunan-ynysu

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pump tip ar sut i dawelu eich meddwl gan y seicolegydd Dr Ioan Rees

Yn y cyfnod ansicr a'r newid byd sydd ohoni yn sgil yr haint coronfeirws Covid-19 dyma gyngor y seicolegydd Dr Ioan Rees o raglen Ffit Cymru ar sut i dawelu ein meddyliau ac aros yn feddyliol iach wrth inni hunan-ynysu a dilyn y canllawiau i gadw'n pellter oddi wrth bobl eraill.

1. Cydnabod eich pryder

Yn gyntaf mae'n bwysig cydnabod bod teimlo'n ofnus neu'n bryderus yn gwbl naturiol ar amser fel hyn.

Ond hefyd, bod 'na bethau cadarnhaol gallwn ni eu gweud.

2. Cadw mewn cysylltiad

Rydyn ni wedi arfer â chymdeithasu felly mae'n bwysig i ni barhau i wneud yr ymdrech i wneud hynny [o bellter].

Beth am ffonio yn fwy aml? Neu gadw mewn cysylltiad gyda rhywbeth fel Skype, wyneb-i-wyneb?

Mae'n bwysig bod ni'n darbwyllo ein gilydd, cefnogi ein gilydd a siarad yn aml gyda phobl eraill.

3. Cael rwtîn

Rydyn ni'n gwybod bod cadw neu greu rwtîn newydd yn ystod cyfnod heriol yn bwysig iawn ac yn help mawr i ni gyd. Felly ystyriwch pa fath o rwtîn rydych chi eisiau ei gael yn ddyddiol.

Oes 'na blant ar yr aelwyd? Bydd angen rwtîn arnyn nhw hefyd yn enwedig os 'dy nhw ddim yn ysgol.

Felly, er enghraifft, cyfnod yn y boreau o rywbeth bach addysgol a wedyn, am weddill y diwrnod, cyfleoedd i fod yn greadigol neu i chwarae. Ond mae'r rwtîn a'r strwythur yn mynd i fod yn hanfodol bwysig i ni gyd.

4. Rhoi hoe i'r newyddion

Mae'n naturiol bod diddordeb gyda ni yn y newyddion ar hyn o bryd. Ond os yw'r newyddion yna yn achosi mwy o bryder neu gofid i ni mae'n bwysig bod ni'n gwneud rhywbeth gwahanol a lleihau ar yr amser ni'n gwario yn gwrando ar y newyddion neu'n gwylio'r newyddion, yn enwedig cyn mynd i'r gwely lle all hynny ddylanwadu ar ansawdd ein cwsg.

5. Dechrau gweithgaredd newydd

Yn olaf, 'falle bod hwn yn gyfle i ni fanteisio ar yr amser i ymddiddori mewn rhyw weithgaredd newydd - rhyw weithgaredd meddyliol neu gorfforol - i hybu'n iechyd meddwl ni a'n lles emosiynol.

Beth am drio rhywbeth fel crefft newydd neu rywbeth arall creadigol? Neu goginio os 'dy chi ddim yn coginio? Neu cadw'n heini am y tro cynta' 'falle i rai ohonom ni? Mae digonedd o bethau allen ni ei wneud. Beth am rhannu dysgu iaith gyda rhywun arall?

Mae'r rhain i gyd yn mynd i fod o fudd i ni yn y pen draw i gadw'n iach yn ystod y cyfnod anodd yma.

Hefyd o ddiddordeb: