大象传媒

Canslo Sioe Frenhinol 2020 oherwydd coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Sioe Fawr

Mae trefnwyr y Sioe Amaethyddol Frenhinol wedi cyhoeddi eu bod nhw'n canslo'r digwyddiad yn 2020 oherwydd coronafeirws.

Dywedodd prif weithredwr y Sioe, Steve Hughson, eu bod wedi gwneud y penderfyniad "oherwydd y sefyllfa sy'n gwaethygu".

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gynghori 70,000 o'r bobl fwyaf bregus i aros yn eu cartrefi am hyd at 16 wythnos.

Roedd y digwyddiad, sy'n denu degau o filoedd o ymwelwyr y flwyddyn, i fod i gael ei chynnal rhwng 20-23 Gorffennaf.

Y tro diwethaf i'r Sioe orfod cael ei chanslo oedd yn 2001, yn ystod haint clwy traed a'r genau.

'Calon drom'

Mewn datganiad brynhawn Llun dywedodd Mr Hughson fod Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi "ystyried canllawiau diweddaraf y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus yn ofalus" cyn dod i benderfyniad.

"Gyda'r Llywodraeth yn cynghori yn erbyn mynychu cynulliadau torfol ac yn cynghori camau pellach yngl欧n 芒 chadw pellter cymdeithasol a hunan ynysu a theithio diangen, roedd y Gymdeithas yn teimlo nad oedd unrhyw ddewis arall" meddai.

"Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ymfalch茂o yn y ffaith ei bod yn sefydliad a arweinir gan ei haelodau, wrth ddarparu ein Sioe eiconig a digwyddiadau eraill sy'n rhan annatod o gefnogi ein cymunedau gwledig ac rydym yn deall effaith y penderfyniad hwn, sy'n cael ei wneud gyda chalon drom."

Dywedodd y prif weithredwr y byddai tocynnau a safleoedd carafanau ar gyfer y Sioe eleni yn cael eu had-dalu neu eu rholio drosodd ar gyfer digwyddiad 2021.

Ond ychwanegodd y byddai canslo'r Sioe yn naturiol yn effeithior Gymdeithas yn ariannol o ganlyniad.