大象传媒

Coronafeirws: Gorfodaeth ar 'bawb i aros adref'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Datganiad Mark Drakeford ar y cyfyngiadau coronafeirws

Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson wedi cyhoeddi bod yn "rhaid i bawb" aros yn eu tai o hyn ymlaen er mwyn taclo coronafeirws.

Yr unig eithriadau fyddai gadael y t欧 ar gyfer prynu nwyddau hanfodol, ymarfer corff unwaith y dydd a chynnig gofal iechyd.

Bydd pobl hefyd yn cael teithio i'r gwaith ac yn 么l, ond dim ond os ydy hynny'n "hollol hanfodol".

Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fod rhain yn "newidiadau mawr" ond bod angen gwneud hyn er mwyn "achub bywydau".

Bydd deddfwriaeth frys i daclo'r argyfwng coronafeirws yn cael ei drafod gan gr诺p bach o Aelodau Cynulliad yn y Senedd yn ddiweddarach bore Mawrth.

Cau busnesau

Mewn cyhoeddiad am 20:30 nos Lun, dywedodd Mr Johnson y byddai'r heddlu yn sicrhau bod pobl yn dilyn y rheolau newydd ac y gallen nhw roi dirwyon i bobl sy'n eu torri.

Fe fydd y mesurau yn eu lle am o leiaf tair wythnos, ac fe fydd hynny'n cael ei adolygu yn dibynnu ar sut fydd y pandemig yn datblygu.

Bydd siopau a busnesau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol yn gorfod cau'n syth.

Ond fe fydd siopau bwyd, fferyllfeydd, meddygfeydd, banciau a swyddfeydd post yn parhau i fod ar agor.

Ffynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd meysydd parcio yn Eryri yn orlawn dros y penwythnos wrth i bobl fynd i gerdded

Fydd digwyddiadau cymdeithasol fel priodasau a seremon茂au bedydd ddim yn cael digwydd, ond bydd angladdau'n parhau i gael eu cynnal.

Er y bydd parciau'n aros ar agor, bydd cyfyngiadau i atal mwy na dau berson rhag ymgynnull.

Dywedodd Mr Johnson fod angen "ymdrech genedlaethol anferth" er mwyn taclo'r haint ac osgoi rhoi straen ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd.

"Fyddai'r gwasanaeth iechyd methu ymdopi, gan olygu bod mwy o bobl yn debygol o farw - nid yn unig o coronafeirws, ond o bethau eraill," meddai.

Ychwanegodd y byddai'r cyfyngiadau newydd yn "achub mwy o fywydau".

'Arafu ymlediad'

Mewn datganiad fideo, dywedodd Mr Drakeford: "Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi gofyn i bawb yng Nghymru wneud newidiadau i'r ffordd y maent yn byw eu bywydau.

"Rydym wedi gofyn i chi aros gartref. Rydym wedi gofyn i chi weithio o gartref os allwch chi, ac i beidio 芒 theithio oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.

"Ond yn awr mae'n rhaid i ni gyflwyno mesurau tynnach."

Ychwanegodd: "Mae'r rhain yn newidiadau mawr i ni i gyd. Helpwch ni i'ch amddiffyn ac i achub bywydau. Gallwn wneud hyn gyda'n gilydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod y mesurau newydd yn hanfodol er mwyn atal ymlediad haint "sydd eisoes yn bygwth trechu'r gwasanaeth iechyd".

"Dyw hwn ddim yn wyliau cenedlaethol. Mae'n argyfwng cenedlaethol," meddai.

"Mae dyletswydd ar bob unigolyn i ddilyn y cyfarwyddiadau."

Ychwanegodd AS Llafur Gogledd Caerdydd, Anna McMorrin mai cadw pobl yn eu tai oedd "yr unig ffordd i achub miloedd o fywydau".