大象传媒

Pryder bod amser yn brin i Ffred a Meinir Ffransis

  • Cyhoeddwyd
Ffred a Meinir FfransisFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Ffred a Meinir Ffransis wybod y byddai disgwyl iddyn nhw aros yn eu gwesty yn Periw am bythefnos

Mae un o blant Ffred a Meinir Ffransis yn poeni ei bod hi'n rhy hwyr i gludo'i rhieni n么l o Beriw wedi'r hyn mae hi'n ei ddisgrifio fel "llanast diplomatig" ar ran y swyddfa dramor.

"Mae'r llywodraeth yn shambles," meddai Gwenno Teifi, 33, "mae'n amlwg nad ydyn nhw'n gwybod shwt i neud foreign relations."

Roedd Ffred a Meinir Ffransis o Lanfihangel-ar-arth ar eu gwyliau ym Mheriw pan benderfynodd y llywodraeth gau ei ffiniau a rhwystro hediadau o'r wlad gyda rhybudd o oriau'n unig ddydd Sul.

Mae nifer o wledydd eraill wedi llwyddo i gludo dros fil o ddinasyddion n么l o Beriw wedi i'r ffiniau gau, yn cynnwys Israel, Ffrainc a'r Almaen.

Mae Canada hefyd yn ceisio trefnu hediadau i ddychwelyd eu dinasyddion nhw.

Pryder ei bod hi'n 'rhy hwyr'

Yn 么l gr诺p ymgyrchu newydd sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth am dynged y dinasyddion Prydeinig ym Mheriw mae cadarnhad bod o leiaf 633 ohonyn nhw yn gaeth yn y wlad, a phosibilrwydd bod cymaint 芒 1,000 yno i gyd.

"Ein pryder ni yw bo' nhw wedi gadael e'n rhy hwyr i'w cludo nhw mas," medd Gwenno.

Yn 么l Gwenno, mae ei rhieni yn Cusco, y ganolfan dwristaidd yn ne ddwyrain Periw, sy'n ganolbwynt i deithwyr sy'n dymuno cerdded i Machu Piccu.

"Mae'r rhan fwyaf o dwristiaid yn Cusco," meddai Gwenno, "ond i drefnu bysys, mae'n cymryd 25 awr i gyrraedd Lima. Ni 'di clywed word of mouth bod hedfaniad yn dod i Lima fory, ond s'dim travel arrangements i gludo pawb i Lima."

Pryder Gwenno yw na fydd ei rhieni'n cael mynd ar yr hediad o gwbl os bydd un ohonyn nhw yn dangos symptomau o coronafeirws. Mae gan ei thad broblemau gyda'i galon.

Yn un o saith o frodyr a chwiorydd, mae Gwenno'n poeni'n fawr am eu sefyllfa.

"S'dim lot o ffydd 'da fi ac mae amser yn rhedeg mas," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Ffred a Meinir Ffransis ar daith drwy dde America i dathlu eu penblwyddi yn 70

Wrth siarad o'i westy brynhawn Mawrth, dywedodd Mr Ffransis wrth 大象传媒 Cymru Fyw: "Da ni gyd rhyw 280 o filltiroedd i ffwrdd o'r brifddinas, o ble fydd yr hediadau.

"Da ni 11,000 o droedfeddi i fyny yn yr awyr - mae anadlu ychydig yn anos fan hyn, ac da ni wedi cael y cyhoeddiad y bydd 'na awyrennau'n mynd o Lima.

"Rhaid i ni nawr sicrhau bod ni'n cael rhyw ffordd i gyrraedd draw at Lima a da ni ddim wedi clywed dim byd gan lysgenhadaeth Prydain yn Lima hyd yma."

Ychwanegodd: "Mae angen i wledydd y byd gydweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod ateb i'r materion yma, ac yn anffodus dyw'r arwyddion ddim yn dda iawn o ran Brexit Britain bod nhw ddim yn cydweithio gyda gwledydd eraill a dydyn nhw ddim yn gwneud eu paratoadau.

"Ond disgwyl ydan ni - disgwyl galwad ff么n".

Swyddfa Dramor

Dydd Sadwrn, dywedodd y Swyddfa Dramor bod yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab wedi siarad 芒 swyddog o fewn llywodraeth y wlad, ac wedi cael caniat芒d i awyren gludo teithwyr yn 么l i Brydain yn gynnar yr wythnos hon.

Mewn neges ar wefan Twitter, fe ddywedodd Mr Raab: "Rwyf wedi cael sgwrs dda gyda'r gweinidog cyfatebol ym Mheriw, Gustavo Meza-Cuadra.

"Ynghanol yr holl heriau o daclo'r coronafeirws, ry'n ni wedi ymrwymo i ddod at ein gilydd i alluogi dinasyddion Prydeinig ym Mheriw a dinasyddion Periw ym Mhrydain i ddychwelyd adre."

Nos Fawrth fe gyhoeddodd y Swyddfa Dramor ar Twitter eu bod wedi danfon arwyren British_Airways i Lima "i ddod 芒 rhai o'r dinasyddion Prydeinig mwyaf bregus adref".

Ychwanegodd y neges: "Rydym mewn cysylltiad gyda'r rheiny sydd 芒 seddi wedi eu cadarnhau ac rydym yn gweithio ddydd a nos i drefnu rhagor o hediadau o Beriw - byddwn ni'n rhoi mwy o fanylion y bobl pan fo rheiny wedi eu cadarnhau."