Gollwng cynlluniau i leihau nifer ASau Cymru o 40 i 29
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi gollwng cynlluniau a fyddai wedi gostwng nifer ASau Cymru o 40 i 29, gan ddweud fod y llwyth gwaith eisoes yn San Steffan yn orlawn oherwydd Brexit.
Roedd y cynnig yn rhan o'r bwriad i leihau nifer yr aelodau yn Nh欧'r Cyffredin o 650 i 600.
Ond gyda sawl her yn rhagor cyn cael y maen i'r wal, gan gynnwys gwrthwynebiad nifer o ASau Ceidwadol, cyhoeddodd Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, Chloe Smith nad yw'r llywodraeth yn bwrw ymlaen 芒'r cynigion.
Serch hynny, mae fe bwysleisiodd Ms Smith fod bwriad o hyd i sicrhau fod pob etholaeth 芒 nifer cyfartal i etholwyr ac fe fydd angen ail-lunio'r map etholaethol.
Mae'r llywodraeth hefyd yn dymuno adolygu ffiniau etholaethol bob wyth mlynedd yn lle bob pum mlynedd.
Roedd AS Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth wedi ymgyrchu yn erbyn y cynigion gwreiddiol oedd yn awgrymu uno'r etholaeth ag ardal o amgylch Bangor.
Byddai'r rheiny, meddai, wedi amddifadu M么n o statws a fyddai wedi gwarchod ynysoedd eraill yn y DY, fel Ynys Wyth a'r Ynysoedd Gorllewinol Yr Alban.
Gan groesawu datganiad Ms Smith, dywedodd fod "ceisiadau i drin Ynys M么n mewn ffordd debyg wedi cael eu hanwybyddu".
'Angen lleihau T欧'r Arglwyddi yn hytrach'
Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholaethol hefyd wedi croesawu'r cyhoeddiad, gan ddweud y byddai'r newidiadau arfaethedig wedi "tanseilio lleisiau pobl gyffredin yn y Senedd a niweidio craffu democrataidd".
Ond yn 么l eu prif weithredwr, Darren Hughes, mae angen "diwygiad llwyr o sut mae democratiaeth y DU yn gweithio" unwaith y daw'r pandemig coronafeirws i ben.
"Heb leihau maint y llywodraeth [yn ogystal], byddai cael llai o ASau wedi... cryfhau pwerau gweinidogion sydd eisoes yn anghymesur," meddai.
Mae'n galw yn hytrach am gael llai o aelodau yn Nh欧'r Arglwyddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2017