Oriel fy milltir sgw芒r: Pen Ll欧n
- Cyhoeddwyd
Gyda'r rhan fwyaf ohonon ni yn gorfod aros yn ein tai yn hunan-ynysu neu gadw pellter oddi wrth ein gilydd, mae'n anodd gwerthfawrogi byd natur a mwynhau arwyddion y gwanwyn sydd o'n cwmpas.
Cyn i ni gael ein gorchymyn i aros adref, bu'r ffotograffydd Dafydd Owen, ffotoNant, sy'n byw ym mhentref Llangian ym Mhen Ll欧n, yn tynnu lluniau o'i filltir sgw芒r ar benwythnos braf:
糯yn bach newydd ar y ffarm. Hyd yn oed efo pandemig rhyngwladol mae'n rhaid i'r ffermwyr ddal i fynd efo'r tymor defaid ac 诺yn.
Yr olygfa am Garn Fadryn - man i fwynhau machludoedd anhygoel Pen Ll欧n.
Mae'r cytiau hyn ar draeth Abersoch yn cael eu gwerthu am ddegau o filoedd. Does neb yn gallu eu defnyddio ar hyn o bryd...
Dyma ochr Fictoraidd y cytiau m么r - maen nhw wedi bod yma ers dros ganrif.
Y m么r yn Abersoch. Mae miloedd yn dod yn eu heidiau bob blwyddyn i fwynhau'r lan m么r, ond mae'n dipyn tawelach ar ddiwrnod braf a distaw yn y gwanwyn.
Pentref Llangian. Yn y neuadd hon roedd digwyddiadau'r gymuned, ac ar y chwith oedd siop a swyddfa bost y pentref.
Pan mae'r nos yn ymestyn a'r tywydd yn brafiach a'r cennin Pedr i'w gweld ym mhobman, mae'n arwydd fod y gaeaf ar ei ffordd allan.
Distawrwydd y gwanwyn yn Abersoch, lle i'r enaid gael llonydd.
Yr eithin yn blodeuo - arwydd arall o'r gwanwyn i godi calon.
Mae byd natur yn cario 'mlaen fel arfer, er gwaetha'r coronafeirws.
Hefyd o ddiddordeb: