Coronafeirws: Heddluoedd yn stopio cerbydau
- Cyhoeddwyd
Mae heddluoedd ar draws Cymru yn stopio teithwyr ar rai o ffyrdd prysura' Cymru heddiw, i ofyn i ydy eu siwrne nhw wir yn angenrheidiol.
Gall gyrwyr gael dirwy hyd at chwe deg punt os ydyn nhw'n cael eu dal yn mynd i rywle nad oes rhaid iddyn nhw.
Ddydd Gwener fe dderbyniodd heddluoedd yng Nghymru a'r Lloegr bwerau newydd i chwalu grwpiau o bobl ac i stopio cerbydau a'u gorfodi i adael lleoliad fel rhan o'r ymdrech i geisio rhwystro'r haint coronafirws rhag lledu ymhellach.
Yn 么l Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Mark Collins, cafodd 200 o gerbydau eu stopio yn Sir Benfro a'u gorfodi i droi yn 么l ddydd Gwener yn unig.
Carafanau o Loegr
Dywedodd Mr Collins fod nifer o'r bobl, gyda rhai yn tywys carafanau, wedi teithio cannoedd o filltiroedd o Loegr er mwyn cyrraedd y sir.
"Rydyn ni'n cael 10 miliwn o ymwelwyr yn dod i Sir Benfro bob blwyddyn, ond nid dyma'r amser i ddod", meddai.
"Fe fydd fy swyddogion yn stopio ceir ac yn defnyddio'r grymoedd newydd yma lle mae'n briodol.
"Fy ap锚l ydy i bobl i beidio 芒 mynd allan. Maen nhw'n bygwth y GIG ac yn rhoi fy swyddogion i mewn sefyllfa beryglus.
"Fe fyddwn ni ar agor eto ymhen rhai wythnosau, bydd y llefydd godidog dal yma bryd hynny, ond fel mae'n sefyll pl卯s arhoswch draw."
Fore Sadwrn roedd ceir yn cael eu stopio ar brif ffordd yr A470 ar Fannau Brycheiniog. Yn 么l yr heddlu yno cafodd un person, a oedd wedi dod o Fryste i geisio dringo Pen-y-Fan, orchymyn i droi'n 么l.
Ddydd Gwener dywedodd pennaeth Heddlu De Cymru nad yw'n gweld angen gosod rheolfeydd, neu 'checkpoints', na rhwystrau ffordd ar hyn o bryd, ond bydd y llu'n parhau i atal pobl rhag casglu mewn mannau poblogaidd.
Yn y cyfamser mae swyddogion cynghorau a pharciau cenedlaethol ar draws Cymru wedi bod yn cau meysydd parcio mannau cyhoeddus er mwyn ceisio rhwystro pobl rhag ymweld.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud y byddan nhw'n patrolio mannau yn Eryri mewn ymateb i adroddiadau bod gyrwyr yn parhau i fynd yno, ac y stopio ceir ar hap ar hyd prif ffordd y rhanbarth, yr A55 a nifer o ffyrdd trefol eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2020