大象传媒

Coronafeirws: Cyhuddo Tesco o 'ymgyrch lob茂o enfawr'

  • Cyhoeddwyd
Archfarchnad TescoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhuddo Tesco o geisio gwyrdroi penderfyniad ar drethi busnes

Mae Tesco wedi cael ei gyhuddo gan Lywodraeth Cymru o "ymgyrch lob茂o enfawr" yn erbyn penderfyniad i beidio 芒 rhoi seibiant trethi busnes i rai o siopau mwyaf y cwmni yng Nghymru.

Mae 大象传媒 Cymru yn deall bod Tesco wedi gofyn am esboniad o feddylfryd y llywodraeth yn hytrach na gofyn am newid i'r polisi.

Yr wythnos diwethaf, fe benderfynodd gweinidogion Llywodraeth Cymru i beidio 芒 rhoi saib ar daliadau trethi busnes i bob cwmni yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden, fel yr oedden nhw wedi cynllunio i'w wneud yn wreiddiol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y bydd tua 200 eiddo sydd 芒 gwerth trethiannol o 拢500,000 neu fwy yn gorfod talu trethi busnes.

Mae hyn yn golygu fod gwesty'r Celtic Manor, John Lewis, a nifer o safleoedd Asda, Morrisons, a Tesco'n ymhlith y rhai sy'n gorfod talu'n llawn.

Mae hefyd yn golygu y bydd canolfan wyliau Bluestone yn Sir Benfro a Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn parhau i dalu trethi busnes.

Fe fydd Bluestone yn cael ei drawsnewid yn ganolfan adfer ar gyfer pobl sy'n gwella ar 么l coronafeirws, tra bod stadiwm genedlaethol Cymru i'w defnyddio fel ysbyty ar gyfer hyd at 2,000 o welyau.

Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth Cymru y byddan nhw yn ceisio digolledu Bluestone a Stadiwm y Principality mewn 'ffyrdd eraill.'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mark Drafeford: 'Llywodraeth yn wynebu penderfyniadau hynod o anodd'

Mewn llythyr ddydd Llun at bennaeth Tesco Dave Lewis, dywedodd y prif weinidog fod Llywodraeth Cymru yn wynebu "penderfyniadau hynod o anodd" oherwydd bod ganddi "gyllideb gyfyngedig a gallu benthyca cyfyngedig"

Dywedodd Mark Drakeford yn ei lythyr y byddai rhoi saib ar dalu trethi busnes i bob adeilad yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden "wedi costio bron 拢120 miliwn i Lywodraeth Cymru."

Ddydd Llun, cyhoeddwyd y bydd yr arian yn lle hynny yn cael ei ddefnyddio fel rhan o gronfa argyfwng gwerth 拢500m i helpu busnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol i oroesi argyfwng coronafeirws.

'Penderfyniad cywir'

Yn ei lythyr at Mr Lewis, fe ddywedodd Mr Drakeford fod hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn "gallu darparu grantiau hanfodol bwysig o oddeutu 拢50,000 i 2,400 o fusnesau bach a chanolig eu maint".

"O ystyried natur economi Cymru, rwy'n argyhoeddedig ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir.

"Yng Nghymru, byddwn nawr yn gallu cynorthwyo sectorau gyda llawer llai o help ar gael fel arall - cwmn茂au yn y sectorau gweithgynhyrchu a gwasanaethau eraill.

"Gwn y byddwch yn cydnabod, er bod Tesco yn gallu parhau i fasnachu, bod llawer o'r busnesau y byddwn nawr yn gallu eu helpu wedi gorfod atal gweithgaredd economaidd yn gyfan gwbl."

Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth Cymru fod Tesco "wedi bod yn defnyddio pob sianel i'n cael ni i wyrdroi'r penderfyniad" a'i fod "wedi bod yn anghymesur".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ymateb Tesco

Dywedodd llefarydd ar ran Tesco: "Fel manwerthwr mwyaf Cymru mae 17,500 o'n cydweithwyr yn gweithio 24/7 i sicrhau bod cwsmeriaid ar hyd a lled y wlad yn cael mynediad i fwyd ac eitemau allweddol eraill.

"Rydym yn gwneud ein gorau i gefnogi ein cydweithwyr a'n cwsmeriaid trwy'r amser hynod ansicr hwn.

"Rydym nawr wedi cyflogi 2,750 yn fwy o weithwyr yng Nghymru er mwyn ein cynorthwyo, ac rydym wedi rhoi bonws o 10% i weithwyr sydd yn y rheng flaen, ac wedi rhoi 12 wythnos o wyliau - ar gyflog - i weithwyr bregus."

Ar 18 Mawrth, dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates wrth 大象传媒 Cymru y byddai Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd a'r cynlluniau a gyhoeddwyd gan Ganghellor y DU Rishi Sunak i helpu busnesau yn Lloegr, gan gynnwys gwyliau cyfradd busnes ar gyfer pob cwmni yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch am 12 mis.

'Niweidiol i fanwerthwyr'

Ond mewn datganiad ysgrifenedig ar 24 Mawrth dywedodd Mr Skates a'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans, fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ers hynny "i beidio ag ymestyn y rhyddhad 100% i'r gyfran fach o eiddo sydd 芒 gwerth ardrethol o 拢500,000 ac uwch".

Dywedodd pennaeth y CBI, Carolyn Fairbairn, ar Twitter ei bod yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Llun am y gronfa busnes ond dywedodd "mae methu 芒 chadw at yr ymrwymiad i gyd-fynd 芒 pholisi Lloegr ar ardrethi busnes yn sylweddol ac yn niweidiol i fanwerthwyr Cymru."

Dywedodd Sara Jones, pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru: "Rydym dal yn methu deall pam mae gweinidogion yn credu nag yw cwmn茂au sy'n gweithredu yma yng Nghymru yn haeddu'r un gefnogaeth ariannol sydd ar gael i gwmn茂au tebyg yn Lloegr a'r Alban."