´óÏó´«Ã½

Rhagor o Gymry wedi dychwelyd i'r DU ar awyren o Beriw

  • Cyhoeddwyd
Casi CartwrightFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Casi Cartwright ei heffeithio gan gyfyngiadau teithio ddaeth i rym gydag oriau yn unig o rybudd

Mae cwpl ifanc o Gymru bellach yn ôl yn y DU ar ôl bod yn sownd yn Periw wedi i hediadau gael eu hatal yn sgil y pandemig coronafeirws.

Roedd Casi Cartwright wedi bod yn teithio yn ne America ers mis Medi gyda'i chariad, Lewis Dafydd Jones o Bont-y-pŵl, ac wedi treulio'r mis diwethaf mewn ardal anghysbell yn nwyrain Periw.

Mae'r ddau ymhlith cannoedd o bobl o Brydain a fu'n gorfod aros yn eu stafelloedd wrth aros i'r awdurdodau drefnu iddyn nhw deithio adref.

Fe laniodd eu hawyren ym maes awyr Gatwick tua 12:30 ddydd Mawrth.

Dywedodd mam Casi, Siân Cartwright wrth raglen Post Cyntaf fore Mawrth "'Dwi wedi bod yn dilyn y flight tracker ers rhyw hanner nos neithiwr ac o'r diwedd mae hi ar ei ffordd adre."

'Mewn ardal anghysbell'

Roedd Casi a Lewis yn aros tua hanner awr o'r maes awyr yn Pucallpa yn nwyrain Periw pan ddaeth y cyfyngiadau llym ar symudiadau pobol i rym.

Mae'r daith o Pucallpa wedyn i'r brifddinas, Lima yn cymryd awr mewn awyren ac 16 awr mewn cerbyd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Casi mewn ardal anghysbell pan gafodd hediadau o Beriw eu hatal

"Y drafferth oedd bod Casi mewn ardal eithaf anghysbell lle'r oedd dim rhyngrwyd o gwbl," meddai ei mam.

"I wneud pethau yn waeth roedd Casi wedi colli ei ffôn ac felly yn ddibynnol iawn ar fenthyg ffôn i ffonio adre.

"Ond yn fwy na hynny, roedd trio cyfathrebu efo sefydliadau mawr... roedd yr awdurdodau yn Periw wedi eu cyfyngu teithiau pobl, felly roedd hi yn amhosib mynd i'r dref agosaf i fynd i ddal awyren."

'Styc mewn paradwys'

"I ddechrau, roedd hi'n d'eud, 'dwi'n styc mewn paradwys', a do'n i ddim yn siŵr os oeddan nhw yn wir ddeall be' oedd yn mynd ymlaen yng ngweddill y byd.

"Wrth gwrs, oeddan ni adra yn gwybod, oherwydd y newyddion, be' oedd yn digwydd ym mhob man ond methu cyfathrebu hynny iddi hi."

Roedd Casi yn gweithio fel swyddog datblygu gyda'r Urdd cyn teithio i dde America, a Lewis yn gweithio i fenter iaith.

Dywedodd Siân ei bod yn disgwyl clywed "beth fydd y broses" nawr bod y ddau yn ôl yn y DU.

"A fydd yn rhaid iddi hunan ynysu?" meddai. "'Dwi yn gobeithio y daw hi adre yn fuan."

'Sefyllfa ofnadwy i'r teuluoedd'

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Parhau mae'r pwysau i sicrhau fod Prydeinwyr sy'n gaeth ledled y byd yn sgil Covid-19 yn cael hedfan adref

Ychwanegodd Siân Cartwright ei bod yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ymgyrchu i sicrhau fod Casi a'r dinasyddion eraill o Brydain yn cael dychwelyd adref.

Ond mae'n dweud fod angen i'r pwysau barhau nes bod pob un o'r unigolion adref.

"Mae 'na 10 o bobl mewn hostel yn Cusco'n dal i aros i ddod adre' fel miloedd o bobl ar draws y byd," meddai.

"Mi ges i e-bost neithiwr gan fy Aelod Seneddol, Dr James Davies yn dweud bod 'na bobl yn India, y Ffilipinau, Seland Newydd ac Awstralia yn dal i aros i ddod adre, felly mae hi yn sefyllfa ofnadwy i'r teuluoedd."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Heð Gwynfor

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Heð Gwynfor

Fe ddychwelodd yr ymgyrchwyr iaith blaenllaw, Ffred a Meinir Ffransis i'w cartref yn Sir Gâr ddydd Llun, gan wneud addewid i barhau i ddadlau achos y bobl sy'n dal yn gaeth ym Mheriw.