Oedi pellach i benderfyniad adeiladu Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae penderfyniad i ganiat谩u adeiladu gorsaf niwclear Wylfa Newydd ar Ynys M么n wedi ei ohirio tan 30 Medi eleni.
Bwriad gwreiddiol Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, Alok Sharma, oedd gwneud penderfyniad ar y cais erbyn 31 Mawrth.
Mae'r cais yn parhau i gael ei ystyried gan y llywodraeth er bod Horizon Nuclear Power, y cwmni tu 么l i'r datblygiad, wedi penderfynu oedi'r gwaith ar y prosiect yn Ionawr 2019.
Mewn datganiad dywedodd Mr Sharma fod y dyddiad wedi ei ymestyn er mwyn caniat谩u i fwy o wybodaeth "ar effeithiau amgylcheddol a materion eraill gael eu cyflwyno a'u hystyried".
Cwmni Hitachi o Japan oedd tu 么l i'r cynllun 拢13bn i godi atomfa newydd am 拢13bn, ac fe sefydlon nhw is-gwmni o'r enw Horizon i weithredu'r prosiect.
Yn wreiddiol roedd bwriad i greu hyd at 9,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, a channoedd o swyddi parhaol unwaith roedd y gwaith hwnnw ar ben.
Ond oherwydd methiant i gytuno ar bris am y trydan gyda Llywodraeth y DU, penderfynodd y cwmni i beidio bwrw ymlaen am y tro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020