大象传媒

Enwi'r cwmni oedd am gyflenwi profion Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Profi am y feirwsFfynhonnell y llun, DANNY LAWSON
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd disgwyl i filoedd yn fwy o brofion ar gyfer y feirws gael eu gwneud bob dydd

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau mai'r cwmni yr oedd y llywodraeth wedi dod i gytundeb gyda nhw i ddarparu offer profi Covid-19 oedd cwmni fferyllol o'r Swistir o'r enw Roche.

Dros y penwythnos, fe ddatgelwyd bod cytundeb i ddarparu 5,000 o brofion ychwanegol yng Nghymru bob dydd wedi dod i ddim - gydag effaith sylweddol ar gynlluniau'r llywodraeth i gynnal profion ar draws y wlad.

Tan nawr roedd gweinidogion y llywodraeth wedi gwrthod enwi'r cwmni oedd yn rhan o'r cytundeb.

Dywedodd Roche mewn datganiad nos Fercher nad oedd cytundeb uniongyrchol gyda Chymru i ddarparu offer profi Covid-19.

Cadarnhad

Wrth ymateb i gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn gynharach yn y dydd, fe gadarnhaodd Mr Drakeford mai gyda chwmni Roche yr oedd y cytundeb yn bodoli.

"Roedd gyda ni gytundeb, roedd y cytundeb hwnnw gyda Roche," meddai.

"Ry'n ni'n credu ei fod yn gytundeb y dylid fod wedi ei anrhydeddu.

"Nawr mae ganddom ni fynediad i gyflenwad o brofion o gonsortiwm o ddarparwyr, fydd yn rhoi hwb i brofi fan hyn yng Nghymru."

Datganiadau

Mewn datganiad ddydd Mawrth dywedodd Roche: "Does gennym ni, ac ni fu erioed gennym ni, gytundeb na dealltwriaeth yn uniongyrchol 芒 Chymru i ddarparu profion ar gyfer COVID-19."

Ac roedd y cwmni'r un mor gadarn ei farn yn dilyn sylwadau Mr Drakeford, gan ddweud mewn datganiad pellach nos Fercher:

"Rydym yn parhau i ddweud nad oedd gan Roche unrhyw gytundeb na dealltwriaeth uniongyrchol gyda Chymru i ddarparu profion ar gyfer COVID-19.聽

"Ein prif flaenoriaeth a ffocws ar hyn o bryd yw i gefnogi Llywodraeth y DU a'r Gwasanaeth Iechyd i gynyddu'r profion ar draws y DU gyfan, gan gynnwys Cymru.

"Fel rhan o'r broses ganolog o ehangu'r profion, byddwn yn parhau i siarad gyda swyddogion yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i symud ymlaen gyda hyn mor sydyn 芒 phosib."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mark Drakeford wedi dweud ei bod hi'n gwneud synnwyr peidio cystadlu gyda gwledydd eraill y DU am brofion

Roedd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi croesawu penderfyniad Mr Drakeford i enwi Roche fel y cwmni dan sylw, ond dywedodd bod angen mwy o wybodaeth.

"Dydyn ni dal ddim yn gwybod pam bod y cytundeb wedi methu yn y lle cyntaf.

"Mae o bwys i'r cyhoedd bod Llywodraeth Cymru a Roche yn dweud wrthon ni yn union beth ddigwyddodd i wneud i'r cytundeb fethu," meddai.

Pwyllgor Materion Cymreig

Yn dilyn yr ansicrwydd am natur unrhyw gytundeb posib, mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gofyn am eglurhad ar y mater.

Yn y llythyr, dywed Stephen Crabb AS: "Mae methiant y cytundeb dywededig ar gyfer hyd at 5,000 o brofion ychwanegol yn ddyddiol yng Nghymru wedi digwydd ar adeg pan fo cryn bryder ymysg y cyhoedd ynghylch yr angen am lawer mwy o brofion coronafeirws.

"Mae'n codi cwestiynau pwysig am lefel y cydlynu a'r cydweithio rhwng llywodraeth San Steffan a Bae Caerdydd wrth gaffael profion a chyfarpar allweddol arall.

"Mae pobl Cymru angen sicrwydd ar fyrder bod llywodraethau'r DU a Chymru yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol er mwyn sicrhau bod pob cornel o Brydain yn cael cyfran deg o brofion."

Sesiwn drwy gyswllt fideo

Yn gynharach yn y sesiwn arbennig o'r cyfarfod llawn o'r Cynulliad drwy gyswllt fideo, fe ddywedodd Mark Drakeford ei fod yn croesawu'r cynllun newydd lle bydd prynu offer profi ar gyfer Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn digwydd yn ganolog.

Tan yr wythnos hon, roedd prynu offer profi yn digwydd ar wah芒n ym mhob un o'r gwledydd datganoledig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae mesurau i hunan ynysu yn gwneud gwahaniaeth, meddai'r prif weinidog

Mae yna bryderon wedi bod mai dim ond ar sail maint y boblogaeth, yn hytrach nag angen, y bydd y profion yma'n cael eu rhannu ar draws y DU.

Ond dywedodd Mr Drakeford bod "gweithio ar y cyd, ar draws pedair gwlad y DU yn ffordd synhwyrol o'i chwmpas hi. Dydyn ni ddim eisiau cystadlu a'n gilydd am adnoddau prin."

Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru wrtho yngl欧n 芒'r lefel uwch o brofi sydd wedi bod yng Nghymru hyd yma o'i gymharu 芒 Lloegr.

Dywedodd Mr Drakeford fod "cydweithio a'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn rhoi rhywfaint o wydnwch i ni yn y system. Dyw hynny ddim yn ein hatal ni rhag edrych am gyflenwadau ein hunain, ond mae'n gystadleuol iawn."

Dywedodd y Prif Weinidog bod yr un egwyddor yn wir yngl欧n ag awdurdodau lleol yn prynu offer gwarchod gweithwyr ar eu liwt eu hunain.

"Fe all awdurdodau lleol yn sicr fynd ati i geisio cael eu cyflenwadau eu hunain, os dyna maen nhw eisiau ei wneud.

"Ond, eto, fydden nhw ddim eisiau canfod eu hunain yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn y farchnad honno, achos fydd hynny yn sicr yn gyrru'r farchnad i gyfeiriad y cyflenwyr, yn hytrach na'r bobol sydd eu hangen nhw."

'Wrth droed y mynydd'

Yn ystod y sesiwn arbennig gydag aelodau Cynulliad dywedodd y prif weinidog fod Cymru "wrth droed y mynydd sy'n ein hwynebu ni" gyda chreisis coronafeirws.

Mae lledaeniad Covid-19 yn "parhau i gyflymu" yng Nghymru meddai.

"Mae'r wythnos ddiwetha' wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobol sydd angen triniaeth ysbyty, a chynnydd pellach yn y nifer o farwolaethau sydd yn gysylltiedig 芒'r feirws.

"Ond mae'n ffaith na ellir ei osgoi ein bod ni'n sefyll wrth droed y mynydd sy'n ein hwynebu ni.

"Fe fydd y mesurau sydd wedi eu cyflwyno dros y bythefnos ddiwetha' yn arafu lledaeniad y feirws, ond fydd effaith hwnnw ddim i'w deimlo yn syth."

Ychwanegodd y byddai yna fwy o farwolaethau ond bod y camau sydd wedi eu cymryd i arafu'r lledaeniad "yn arbed bywydau."

Dywedodd hefyd fod y cymorth gan y lluoedd arfog nawr ar gael i "ganolfan cydlynu argyfwng" Llywodraeth Cymru ac i wasanaethau cyhoeddus, a bod nifer y gwirfoddolwyr yng Nghymru wedi pasio 30,000.