´óÏó´«Ã½

Enwogion yn cefnogi cynllun newydd i fwydo staff y GIG

  • Cyhoeddwyd
Un o'r cogyddion yn paratoi y bwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cogyddion ym mwyty Môr wedi bod wrthi yn paratoi'r bwyd i'w ddosbarthu yn ddiweddarach

Mae cynllun sydd wedi ei sefydlu i fwydo gweithwyr y gwasanaeth iechyd yn ystod argyfwng y coronfeirws wedi cael cefnogaeth rhai o enwogion Cymru.

Bwyty Môr yn Y Mwmbwls, Abertawe sydd y tu ôl i'r ymgyrch 'FeedtheNHSWales' a nos Iau fe fyddan nhw'n darparu 150 o brydau maethlon i staff yn yr uned frys, y theatr a'r uned gofal dwys yn ysbyty Treforys.

"Roedden ni wedi gweld menter yn cael ei sefydlu gan Leon yn Lloegr ac yn sylweddoli nad oedd yna ddim byd tebyg yng Nghymru eto.

Sefydlu 'cynghrair'

"Ac roedden ni yn clywed gan ffrindiau a theulu pa mor anodd yw hi i weithwyr y GIG gael bwyd da," meddai Kirsten Heaven, un o berchnogion y bwyty.

Gwirfoddol yw gwaith pawb sydd wedi bod yn ymwneud â'r fenter ac yn barod mae nifer o fusnesau lleol, annibynnol gan gynnwys Caswell Catering, Bluebell coffee a Gower Seafood Hut wedi dweud eu bod am helpu.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd 150 o brydau yn cael eu rhoi i rhai o weithwyr y GIG ond y bwriad yw ehangu'r cynllun

Bydd cwmni gwaith coed lleol Green's Carpentry yn dosbarthu'r bwyd i'r ysbyty.

Y bwriad medd Kirsten yw sefydlu "cynghrair o bartneriaethau" ac ehangu'r cynllun ar draws Cymru i ysbytai a wardiau eraill.

Mae rhai busnesau o ardaloedd tu allan i Abertawe yn barod wedi dangos diddordeb.

Erbyn dydd Sadwrn bydd bwyd yn cael ei roi i weithwyr yn ysbyty Treforys a Singleton a phrydau bob dydd yn cael eu cynnig o ddechrau'r penwythnos.

Ffynhonnell y llun, Mike Hewitt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Wyn Jones yn un o'r enwogion sydd yn cefnogi'r ymgyrch

Ond er mwyn medru talu am y cynhwysion a bod gweithwyr GIG mewn ardaloedd eraill yng Nghymru yn medru elwa,mae'n rhaid codi arian.

Mae tudalen justgiving wedi ei sefydlu gyda'r cyflwynydd tywydd Siân Lloyd a'r chwaraewr rygbi Alun Wyn Jones yn cefnogi. Y nod yw codi £100,000.

"Wy wedi siarad da cwpl o nyrsys lawr yma yn Abertawe," meddai Siân Lloyd. "Maen nhw yn gweithio y shiffts mwyaf hir, mwyaf caled ac yn llythrennol maen nhw...yn gollwng eu dillad nhw ar stepen eu drysau ar ddiwedd shifft…

Ddim 'pryd go iawn'

"Mae'r nyrsys yma yn syrthio mewn i'w gwlâu ar ôl cael jest ychydig oriau o gwsg cyn gorfod ail gychwyn yr holl broses. A'r peth yw, dydyn nhw heb gael pryd go iawn yn yr ysbyty yn y cyfamser," meddai ar raglen y Post Cyntaf.

"Y ffordd mae staff yn cael eu bwyd nawr yw prynu crisps neu far o siocled o'r peiriannau yma, vending machines."

Un o'r rhai sydd yn cydlynu'r cynllun ar gyfer gweithwyr y gwasanaeth iechyd yw Cat Cromey, sy'n Ymgynghorydd Anasetydd yn Ysbyty Treforys.

Mae'n dweud y bydd y prydau o fwyd maethlon yn gwneud gwahaniaeth.

Mae'r staff i gyd o'r nyrsys a doctoriaid i'r porthorion, fferyllwyr a'r rhai sy'n gweithio ar y wardiau yn gweithio oriau gwahanol iawn oherwydd yr argyfwng meddai, oriau anghymdeithasol trwy'r dydd a nos yn aml.

Ffynhonnell y llun, Cat Cromey
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pryd o fwyd da yn codi ysbryd y staff sydd yn gweithio mewn amgylchiadau anodd, medd y meddyg Cat Cromey

A does dim llawer o amser i gymryd seibiant meddai.

"Mae nifer yn aros i ffwrdd o adref i amddiffyn eu teuluoedd. Mae eraill yn cyrraedd adref wedi ymlâdd gormod i goginio a gyda dim llawer o fynediad i fwyd blasus, maethlon.

"Mae pryd o fwyd da o ansawdd y bydd modd iddyn nhw fwyta yn ystod eu shifft neu eu ail gynhesu pan maen nhw'n cyrraedd adref o bosib yr unig bryd poeth y byddan nhw yn bwyta."

Cynllun ymarferol

Ychwanegodd y bydd o "fudd mawr i les meddyliol a chorfforol staff ac yn y pendraw eu galluogi i fod ar eu gorau yn y gwaith."

Yn ôl Siân Lloyd mae hwn yn gynllun ymarferol i ddangos cefnogaeth i weithwyr sy'n rhoi eu bywyd yn y fantol er mwyn helpu cleifion sydd wedi eu heintio â'r feirws.

"Mae'r peth clapio 'ma yn ffantastig dydy. Nes i gymryd rhan wythnos diwethaf ac mae'n grêt. "Ond dwi'n meddwl bod cael gwneud rhywbeth penodol, rhywbeth fel hyn, meddai'r nyrsys wrtho fi sy'n hollol wych, maen nhw mor ddiolchgar achos maen nhw i gyd o dan straen.

Pris coffi'n help

"Pan chi o dan straen mae bwyd da yn rhywbeth reit bwysig."

Mae Matthew Heaven o'r bwyty Môr yn cydnabod bod hi'n ddyddiau anodd yn ariannol ar bobl yn sgil y feirws.

"Dydyn ni ddim yn disgwyl pobl i roi swm mawr o arian. Os byddai pawb yn rhoi pris cwpaned o goffi byddai hynny yn bwerus," meddai.