Haint yn gorfodi ffermwyr i gael gwared 芒'u llaeth
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ffermwyr wedi gorfod cael gwared ar eu llaeth dros y dyddiau diwethaf oherwydd argyfwng coronafeirws, gydag un yn disgrifio'r sefyllfa fel "torcalonnus".
Mae'r ffermwyr y mae rhaglen 大象传媒 Cymru wedi siarad gyda nhw yn gwerthu eu llaeth i gwmni Freshways.
Mae'r cwmni hwnnw yn cyflenwi i gwmn茂au awyrennau a siopau coffi mawrion, sydd bellach ar gau.
Bu'n rhaid i un ffermwr yng Ngheredigion gael gwared 芒 miloedd o litrau o laeth ffres dros y Sul.
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 7 Ebrill
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Fe ddaeth y tancer llaeth ddydd Llun, ond does dim sicrwydd a fydd yn dychwelyd i gasglu llaeth ddydd Mawrth yr wythnos yma.
Dywedodd Llyr Griffiths, sy'n ffermio yn Llangoedmor: "Mae'n dorcalonnus gorfod gwaredu'r llaeth. Ni'n gweithio mor galed.
"Wedd e'n upsetting... a digwyddodd popeth ar gymaint o fyr rybudd. Gorfon ni daflu gwerth 拢3,000 o laeth mewn hanner awr. Sai'n beio Freshways am hyn - mae angen i'r llywodraeth ddod mewn i helpu nhw a'r ffermwyr."
Mae ffermwyr sydd mewn cytundeb gyda chwmni Freshways eisoes wedi gweld gostyngiad o 2c y litr ym mhris eu llaeth.
Mae eu taliad hefyd wedi ei ddal yn 么l tan ganol Mai, medd y ffermwyr.
Wrth i laeth gael ei waredu ar ffermydd - mae adroddiadau fod rhai archfarchnadoedd a'u silffoedd yn brin o laeth.
Mae Brian Walters yn ffermwr llaeth a hefyd yn gyn-swyddog undeb.
Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru: "Mae 'na gynnydd yn yr archfarchnadoedd, lle mae mwy o ddemand am laeth fan hynny a mwy o ddemand am gaws, ac felly mae rhai cwmn茂oedd yn gwerthu yn iawn a gwerthu rhagor nag arfer, a'r gweddill wedyn yn diodde'.
"A na'r broblem 'da ni, mae 'da ni gymaint o wahanol gwmn茂oedd ac maen nhw falle yn methu cal trefn i symud llaeth o un i'r llall."
Ychwanegodd: "Os ydy'r proseswyr sy'n delio gyda llaeth liquid lan i'r limit, mae'n anodd iddyn nhw wedyn i gymryd rhagor mewn, lle oedd y llaeth yna i fod i fynd i'r awyrennau neu'r siopau coffi".
Mae 大象传媒 Cymru wedi cysylltu 芒 chwmni Freshways ond doedd neb ar gael i wneud sylw.
Llywodraeth
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi ysgrifennu at adran materion gwledig San Steffan yn pwysleisio'r angen i gyd-weithio er mwyn gwarchod y gadwyn fwyd.
Dywedodd adran amaeth Defra yr wythnos ddiwethaf ei bod yn edrych ar ffyrdd o ailgyfeirio cyflenwadau o laeth o siopau coffi, a bwytai i archfarchnadoedd.
Neges Mr Griffiths a nifer fawr o ffermwyr ydy bod angen iddyn nhw weithredu ar frys, er lles dyfodol y diwydiant llaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2020