大象传媒

Sut i wneud y mwyaf o鈥檆h siopa wythnosol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fideo: Lloyd Henry sy'n cynnig cyngor am sut i wneud y mwyaf o'ch neges wythnosol

Gyda chyfyngiadau ar fynd i siopa a chyflogau'n is neu wedi'u colli dros y cyfnod hwn, mae'n bwysig meddwl am yr hyn rydyn ni'n ei roi yn ein basged siopa.

Mae Lloyd Henry, athro Bwyd a Maeth yn Ysgol Gyfun G诺yr, wedi rhoi rhestr o gynghorion at ei gilydd i Cymru Fyw am sut i siopa ar gyllideb.

1. Cynllunio

Yn gyntaf, gwnewch gynllun bwyd am yr wythnos. Rydw i a fy ngwraig yn penderfynu pa gig neu bysgod rydyn ni am ei fwyta o wythnos i wythnos ac yn defnyddio rheiny fel man cychwyn i weddill y bwyd rydyn ni'n ei brynu.

2. Chwilio am fargeinion

Siopiwch yn yr eil fwyd sydd gyda nwyddau 芒'u pris wedi'i leihau.

Ffynhonnell y llun, Lloyd Henry

Peidiwch 芒 bod ofn neu'n rhy falch i brynu bwyd 芒 sticer melyn arno. Mae prynu'r bwydydd hyn yn ffordd dda o arbed arian ac mae modd eu rhewi er mwyn eu defnyddio yn hwyrach ymlaen.

3. Lleihau gwastraff

Beth am wneud y mwyaf o un cynhwysyn? Byddwch yn greadigol efo'r hyn rydych chi'n ei brynu.

Er enghraifft, fe allech chi brynu pecyn enfawr o selsig gan ddefnyddio hanner y selsig i wneud pethau fel casserole, selsig a thatw stwnsh ac yn y blaen. Gyda'r hanner arall, fe allech chi dynnu'r croen oddi ar y selsig a defnyddio'r cig i wneud pei gig neu sosej r么l.

Gallech wneud yr un fath drwy brynu cyw i芒r cyfan a defnyddio'r holl gig i wneud amryw brydau fel cinio dydd Sul, cyri, stir-fry ac ati. Mae'n arbed arian a does dim gwastraff

4. Ychwanegu blas

Sicrhewch fod gennych chi ddewis eang o sbeisys a pherlysiau. Mae'n ffordd hawdd a syml i ychwanegu blas at unrhyw bryd o fwyd.

Ffynhonnell y llun, Lloyd henry

5. Prynu pethau sy'n para'

Ffrwythau a llysiau ffres yw'r gwastraff mwyaf o gartrefi pobl, felly prynwch duniau o ffrwythau a llysiau, neu rai wedi'u rhewi.

Yn aml iawn maen nhw'n rhatach ac yn para'n hirach.

6. Troi at yr ardd

Os yw'n bosib, tyfwch eich bwyd eich hunain.

Mae 'na foddhad mawr i'w gael o fwyta bwyd rydych chi wedi ei dyfu eich hun. Yr adeg hyn o'r flwyddyn mae pethau fel tatws, winwns, tomato a ffa yn ddigon hawdd eu tyfu.

Ffynhonnell y llun, Lloyd Henry

7. Bod yn fentrus

Byddwch yn barod i arbrofi gyda chynhwysion.

Yn aml iawn mae fy nghegin i fel pennod o Ready, Steady, Cook! felly peidiwch 芒 bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Fe gewch eich synnu beth allwch chi ei greu.

Ac yn olaf, mwynhewch. Dyna'r peth pwysicaf.

Ffynhonnell y llun, Lloyd Henry
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Os hoffech chi fwy o syniadau a chyngor gan Lloyd ewch draw i'w gyfrif Instagram @ceginmrhenry

Hefyd o ddiddordeb: