Jamie Roberts yn gwirfoddoli i'r gwasanaeth iechyd

Disgrifiad o'r fideo, Jamie Roberts: "Ysbrydoliaeth i weld" gwaith staff iechyd

Mae'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Jamie Roberts wedi gwirfoddoli i helpu'r gwasanaeth iechyd yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.

Mae Roberts, gwblhaodd ei radd feddygol o Brifysgol Caerdydd yn 2013, wedi dychwelyd o Dde Affrica yn ddiweddar lle bu'n chwarae i'r Stormers.

Bydd y canolwr, sydd wedi cynrychioli Cymru 94 o weithiau, yn gwirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

"Mae bywyd wedi newid yn fawr dros yr wythnosau diwethaf o fod yn chwaraewr rygbi wneud y r么l yma," meddai Roberts.

"Mae chwaraeon proffesiynol yn cymryd cam yn 么l ar adeg o argyfwng iechyd cyhoeddus fel hyn.

"Rydw i wedi bod yn eistedd ar fy ngradd feddygol am dipyn o amser ac yn teimlo pam lai helpu yma yng Nghaerdydd?

"Roeddwn am wirfoddoli oherwydd bod hi'n bwysig, felly dwi wedi cymryd r么l anrhydeddus gyda'r t卯m arloesi.

"Fy r么l fydd cefnogi pobl lle gallai ac mae'n bosib y byddai'n gwneud peth gwaith cyfathrebu a helpu i hybu'r gwaith da y mae pobl yn ei wneud.

"Mae hwn yn argyfwng mawr ac mae sialens yn ein hwynebu - ry'n ni ond am ei ddatrys gyda'n gilydd."

Mae Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, lle chwaraeodd Roberts dros Gymru, bellach wedi ei addasu i fod yn ysbyty maes gyda lle ar gyfer 2,000 o wl芒u.

Disgrifiodd Roberts y profiad o weld y stadiwm wedi ei drawsnewid fel un "swreal".