Meddygon tramor yn erfyn am gael helpu'r GIG
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon o dramor sy'n byw yng Nghymru yn dweud eu bod yn awyddus i helpu'r GIG ddelio ag argyfwng Covid-19, ond nad oes ffordd iddyn nhw gymhwyso yma.
Yn wreiddiol o Mosul, Irac, mae Luma Ibrahim sy'n 46 oed, yn byw yng Nghaerdydd ers mwy na degawd.
Bu'n gweithio fel meddyg teulu yn ei mamwlad am chwe blynedd cyn dod yma fel myfyriwr gyda'i g诺r.
Mae'n dweud iddyn nhw dalu eu hunain i gael dod yma, ac er i'w g诺r gymhwyso fel doctor, mae Dr Ibrahim wedi cael anawsterau.
'Yr un stori pob tro'
"Dwi wedi gwneud dros 40 o arholiadau ac roedd hi'r un stori bob tro," meddai.
"Byddwn i'n cael marciau da, ond nid ym mhob adran ym mhob arholiad."
Mae'r prawf yn asesu sgiliau mewn pedair adran: darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando.
Mae disgwyl i'r rheiny sydd yn sefyll lwyddo i ennill sg么r o o leiaf 7 ymhob adran a 7.5 ar draws pob un o'r adrannau.
Daeth Dr Ibrahim o fewn hanner marc i basio ar sawl achlysur.
Byddai hynny wedi bod yn ddigonol tan 2010, ond erbyn hyn, dyw e ddim yn ddigonol i ganiat谩u iddi gymryd y profion meddygol i allu cofrestru fel doctor.
Mae Dr Ibrahim yn rhan o fudiad Medical Professionals in the UK Seeking Registration, sy'n mynnu bod ei Saesneg yn ddigon da i gyfathrebu 芒 chleifion a bod ganddyn nhw sgiliau hanfodol ddylai gael eu defnyddio yn y cyfnod yma o bandemig.
"Byddwn i wrth fy modd yn gallu helpu'r gwasanaeth iechyd yn ystod y cyfnod anodd yma," meddai.
"Dwi wir yn gobeithio y bydd y GMC (Cyngor Meddygol Cyffredinol) a'r llywodraeth yn edrych eto ar eu polis茂au er mwyn rhoi cyfle i ni weithredu ac ymateb i'r pandemig."
'Cwricwlwm union yr un fath'
Un arall sy'n cwyno am y sefyllfa yw Abdala Deeb.
Yn hanu o Balesteina a bellach yn 51 oed, mae e hefyd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ar 么l graddio o brifysgol yn Libya.
Fe astudiodd ei radd mewn meddygaeth drwy gyfrwng y Saesneg yno, a'n dweud bod hynny wedi ei baratoi yn dda i allu gweithio ym Mhrydain.
"Roedd yr arholwyr allanol oedd yn fy asesu yn dod o Brydain. Daeth yr arholiadau yn uniongyrchol o Brifysgol Dulyn," meddai.
"Roedd ein cwricwlwm a llyfrau dosbarth yn union yr un fath 芒'r rhai sy'n cael eu defnyddio fan hyn."
Er mwyn cofrestru fel doctor, mae'n rhaid i feddygon rhyngwladol basio un o ddau brawf ieithyddol; prawf IELTS sy'n costio 拢180 neu brawf OET ar gost o 拢297.
Mae wedyn angen cymeradwyo eu sgiliau meddygol gyda dau brawf pellach, Plab 1, sy'n costio 拢230, a Plab 2 sydd yn dod gyda bil o 拢840.
Dangosodd Dr Deeb dystiolaeth i'r 大象传媒 ei fod wedi cyflawni'r sg么r cyffredinol o 7.5 yn y prawf IELTS ar sawl achlysur, ond gan fethu 芒 chyrraedd sg么r o 7 mewn un adran bob tro.
Ym mis Rhagfyr y llynedd, ar 么l degawd o drio fe lwyddodd Dr Deeb i basio'r prawf IELTS.
'Dyma'r amser i recriwtio'
Dyw e ddim yn gweithio ar hyn o bryd, a byddai'n ei chael hi'n anodd os nad yn amhosib fforddio sefyll y profion Plab.
Ar ben hynny, mae'r profion Plab 2 wedi eu gohirio gan fod y profion yn golygu dod i gyswllt ag eraill a bod felly perygl o heintio.
Ond mae Dr Deeb yn pledio gyda'r llywodraeth i lacio'r rheoliadau ar hyn o bryd ar gyfer graddedigion fel fe.
"Mae'r wlad yng nghanol creisis. Dyma'r amser i recriwtio ein gwybodaeth feddygol," meddai.
"Allwn ni leihau'r straen ar y gwasanaeth iechyd. Mae gennym ni'r awydd a'r awch i wneud hynny."
'Sgiliau addas a digonol'
Dywedodd y GMC: "Mae cyfathrebu yn hollbwysig聽wrth ddarparu gofal ac mae'n bwysig bod gan bob meddyg sgiliau Saesneg addas a digonol."
Fe ddywedon nhw hefyd bod 8,500 o ddoctoriaid o dramor wedi cyrraedd eu gofynion ac ymuno 芒'u cofrestr y llynedd.
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod yn rhaid i ddoctoriaid wireddu gofynion y corff rheoleiddio.
Ychwanegon nhw fod rheoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol yn fater i Lywodraeth San Steffan.
Mae 大象传媒 Cymru wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth y DU.