Clwb P锚l-droed Y Rhyl yn 'paratoi am y gwaethaf'
- Cyhoeddwyd
Gyda phryderon cynyddol am ddyfodol Clwb P锚l-droed Y Rhyl, mae trysorydd y clwb yn dweud fod o'n "gobeithio am y gorau ond yn paratoi am y gwaethaf".
Yn 么l John Hughes-Jones mae sefyllfa ariannol y clwb yn "ddifrifol iawn".
Mae angen dod o hyd i tua 拢175,000 cyn diwedd y penwythnos, meddai, neu mi fydd y clwb yn mynd i'r wal.
Y Rhyl oedd pencampwyr Uwch-gynghrair Cymru yn 2004 a 2009, ac enillwyr Cwpan Cymru yn 2006.
Maen nhw hefyd wedi chwarae mewn cystadlaethau Ewropeaidd nifer o weithiau.
Ond bellach maen nhw'n chwarae yn ail haen p锚l-droed Cymru, ac fel pob clwb arall, dydyn nhw ddim wedi chwarae ers dros fis oherwydd yr argyfwng coronafeirws.
Yn 么l Mr Hughes-Jones, mae hynny wedi cael effaith ar eu gallu i gynhyrchu incwm.
"Mae'n dorcalonnus," meddai. "Dwi wedi bod yn dilyn y clwb ers 30 mlynedd. Mae'r clwb yn rhan o hanes Rhyl ac wedi codi proffil y dref ers amser maith."
Os bydd y clwb yn dod i ben, un posibilrwydd fyddai dechrau clwb newydd.
Ond mae'n debyg y byddai hwnnw'n gorfod dechrau yn agos i waelod y pyramid p锚l-droed yng Nghymru.
Penderfyniad terfynol
Yn 么l Ffred Ffransis, sy'n cefnogi'r Rhyl ers yn blentyn: "Fyddai'r Rhyl ddim yr un fath heb glwb p锚l-droed, a byddai ail-gychwyn mewn parc ddim yr un fath o gwbl."
Yn sgil yr argyfwng coronafeirws, mae 'na bryderon y gallai clybiau p锚l-droed eraill yng Nghymru wynebu problemau tebyg.
Gwrthododd Cymdeithas B锚l-droed Cymru wneud sylw yngl欧n 芒'r mater, ond maen nhw wedi annog clybiau i wneud ceisiadau am grantiau sydd ar gael i fudiadau chwaraeon sy'n wynebu trafferthion.
Mae disgwyl i fwrdd cyfarwyddwyr CPD Y Rhyl wneud penderfyniad terfynol yngl欧n 芒 dyfodol y clwb ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2020