Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwestiynu Ysgrifennydd Cymru dros y we am y tro cyntaf
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi rhybuddio Aelodau Seneddol Cymreig rhag sgorio "pwyntiau gwleidyddol" yn ystod y frwydr yn erbyn Covid-19.
Wrth ateb cwestiynau seneddol ar faterion Cymreig o'i gartref yn Sir Benfro ddydd Mercher, fe ddywedodd na ddylid defnyddio pryderon presennol mewn ffordd wleidyddol.
Fe ofynnodd AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards a oedd yr Undeb yn gweithio pan fod cartrefi gofal yn methu prynu offer PPE o Loegr.
Fe gyfeiriodd Nia Griffith, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur, at bryderon nad oedd nifer o fusnesau yng Nghymru wedi elwa o becynnau cefnogaeth Llywodraeth y DU.
Anghytuno dros bryderon PPE
Fe ofynnodd Mr Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, am esboniad pam fod "Llywodraeth y DU, trwy Iechyd Cyhoeddus Lloegr, wedi cyfarwyddo cynhyrchwyr PPE mawr i beidio 芒 chyflenwi darparwyr gofal yng Nghymru".
Bythefnos yn 么l fe ddatgelodd 大象传媒 Cymru fod dau gwmni darparu PPE yn Lloegr wedi gwrthod gwerthu offer diogelwch personol i gartrefi gofal yng ngogledd Cymru, gan esbonio eu bod nhw'n delio a'r offer ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Simon Hart ei fod yn "gwrthod yn gyfan gwbl" yr hyn oedd yn cael ei awgrymu gan Mr Edwards.
"Ers y dechrau, ein hunig nod yw sicrhau bod yr offer cywir yn cyrraedd y llefydd cywir ar yr amser cywir," meddai.
"'Dwi'n meddwl bod ceisio gwneud, fentra' i ddweud, pwynt gwleidyddol rhad o sefyllfa y mae nifer o bobl yn ymdrechu bob dydd i'w gwella ddim yn gyfraniad arbennig o ddefnyddiol i'r drafodaeth hon."
- YN FYW: Y newyddion diweddaraf am yr haint ar 22 Ebrill
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
Dywedodd Ms Griffith, AS Llanelli, ei bod hi'n pryderu nad oedd nifer o fusnesau oedd wedi cael eu heffeithio waethaf gan y pandemig, wedi gwneud defnydd o gymorth Llywodraeth San Steffan.
"Maen nhw mewn angen difrifol am gymorth i gynnal eu hunain," meddai.
"Ond er waethaf addewid y Canghellor i wneud popeth posib, nifer fach o fusnesau bach a chanolig sydd wedi cael gafael ar fenthyciadau'r Llywodraeth, nid am nad oes angen arnyn nhw am yr arian, ond oherwydd y risg sydd ynghlwm 芒 nhw.
"Pryd fydd y Llywodraeth yn gwneud y peth anrhydeddus a gwarantu 100% o'r benthyciadau er mwyn rhoi'r hyder angenrheidiol i fusnesau?"
Wrth ymateb, dywedodd Mr Hart fod "si诺r o fod cyn gymaint o gefnogaeth wedi ei gynnig gan Lywodraeth y DU i fusnesau'r DU ag unrhyw wlad arall ar y blaned sydd wedi ei heffeithio gan coronafeirws".
"'Dwi'n gobeithio'n fawr na fydd hi'n troi hwn yn rhywbeth gwleidyddol yn fwy na sydd wirioneddol raid."
Mr Hart oedd y gweinidog cyntaf o Lywodraeth y DU i annerch T欧'r Cyffredin drwy gyswllt fideo yn y sesiwn rithiol gyntaf i'w chynnal yn San Steffan.
Mae senedd San Steffan wedi dechrau cwrdd ar fformat hybrid - gyda nifer cyfyngedig o ASau yno yn bersonol, ond y rhan fwyaf yn ymuno drwy gyswllt y we.
Ar drothwy'r sesiwn dywedodd Mr Hart: "Mae Llywodraeth y DU wedi dweud wrth bobl am weithio o adre' ble fo hynny'n bosib yn ystod y pandemig coronafeirws, ac mae'n iawn felly fod gwaith senedd y DU yn cael ei wneud yn wahanol yn y cyfnod digynsail yma."
Mae'r Senedd ym Mae Caerdydd hefyd yn cwrdd ddydd Mercher gan barhau gyda'i sesiynau rhithwir.