Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sut i gadw'n iach wrth aros adref
Yn 么l yr arbenigwyr, mae ceisio cadw'n iach, yn gorfforol ac yn feddyliol, yn bwysig yn y cyfnod hwn o hunan-ynysu. Ond i rai, mae'r syniad o geisio colli pwysau neu fwyta'n iach yn teimlo'n amhosib yng nghanol cyfnod cythryblus.
Wrth i ni fod yn gaeth i'n cartrefi, neu'n gweithio oriau gwahanol i'r arfer a threfn y diwrnod yn amrywio, ydy hi'n bosib byw'n iach yn ystod y lockdown? Cyngor Ruth Evans o Lanllwni, yn Sir Gaerfyrddin, sy'n un o'r arweinwyr ar y gyfres Ffit Cymru ar S4C, yw i bobl beidio trio newid popeth ar hyn o bryd, ond i ddod 芒 newid bach bob dydd.
"Lockdown neu beidio, fi moyn newid fy ffordd o fyw," meddai Ruth Evans sy'n 45 oed ac yn gweithio fel Swyddog Gwirfoddoli i fudiad CAVO yng Ngheredigion.
Dywedodd iddi ddarllen ffurflen gais y gyfres deledu ym mis Ionawr, ei lenwi ar-lein a phwyso'r botwm anfon o fewn hanner awr.
"Dwi'n ffeindio colli pwysau yn anoddach wrth fynd yn h欧n, ac o'n i'n teimlo mai nawr oedd yr amser i wneud rhywbeth am y peth," meddai.
Erbyn canol mis Mawrth, cyn y lockdown, roedd Ruth wedi cael ei dewis i fod yn un o arweinwyr y gyfres, ac roedd hi'n falch o'r cyfle i newid ei bywyd.
"Pan ges i'r prawf meddygol, dyna pryd daeth y sioc i fi a sylweddoli beth yn gwmws fi wedi 'neud i fy nghorff, roedd dros hanner fy nghorff i'n fraster.
"Fi'n cario lot o fraster rownd fy nghanol, a hwnnw yw'r braster peryglus, sydd rownd eich organau chi tu fewn. A phan maen nhw'n dweud dy fod ti mewn categori uchel o gael str么c neu broblemau gyda'r galon... mae'n wake up call go iawn."
Bwriad Ruth, wrth ddilyn y cynllun, meddai, yw i fyw bywyd iachach ac i gynyddu ei ffitrwydd, gan geisio helpu eraill i ddilyn ei chynllun yr un pryd.
"Os ydyn ni'n bod yn onest gyda'n hunain, ac os yw rhywun yn gweld fi neu un o'r arweinwyr eraill, ac yn gweld eu hunain ormod ynddon ni, wedyn gobeithio byddan nhw'n gallu newid, a dechrau gwella yr hyn maen nhw'n neud gyda'u cyrff a'u iechyd hefyd.
'Cadw patrwm i'ch diwrnod'
"Mae routine yn bwysig. Dwi'n ffodus i fod yn gweithio o adre' yn llawn amser ar hyn o bryd, felly mae dal gen i batrwm i'r diwrnod. Mae llawer o bobl ar hyn o bryd yn colli eu patrwm arferol sy'n gallu bod yn anodd.
"Mae cael yr amser i wneud y cynllun [bwyta'n iach a chadw'n ffit] yn anodd, ond mae'n rhoi rhywbeth i chi anelu ato, ffocws am y diwrnod."
Felly, pa gyngor fyddai Ruth yn ei roi i eraill sydd am geisio gofalu am eu pwysau tra'n aros adref?
"Mae angen i chi barhau i gael tri pryd o fwyd y dydd, a mynd allan yn ystod yr awr yna lle mae hawl ganddon ni fynd mas, yn enwedig os yw'r tywydd yn braf.
"Dwi'n yfed lot fawr o dd诺r, yn 'neud ymarfer corff ddwywaith y diwrnod, ac yn paratoi'r bwyd o scratch. Mae'n rhoi rhywbeth i wneud, a dwi'n teimlo'n llawer gwell o fod wedi ei neud e.
"Alla' i gydymdeimlo gyda'r rhai sy' adre' sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd, efallai yn meddwl 'beth allai 'neud nawr?' ac yn eistedd lawr o flaen y teledu a chael snac.
"Yn y gorffennol, mae ffocws Ffit Cymru wedi bod am golli pwysau, ond eleni, oherwydd ein bod ni fel arweinwyr adre, mae'r pwyslais ar gadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol.
Troi at lasied o win
"Mae rhai yn gweld y diwrnod yn hir a falle'n troi at lasied o win.
"Ond fy nghyngor i fyddai i geisio peidio. Os ydych chi'n 'neud hynna bob dydd, ac yn mynd i'r arfer gormod, wedyn pan ewch chi n么l i'r gwaith - neu ailgydio mewn bywyd tu allan i'r t欧 ar 么l y lockdown - fe allech chi deimlo'n waeth."
Dyma arferion da y dietegydd Sioned Quirke am sut i edrych ar 么l ein hunain ar hyn o bryd:
1.Sefydlu trefn i'r diwrnod. Er lles iechyd meddwl, ac o safbwynt maeth a bwyta'n iach. Ceisiwch osod amseroedd bwyd rheolaidd yn ystod y dydd. Cadwch at y strwythur hwn i helpu i reoli'ch archwaeth, osgoi bwyta di-fudd a di-feddwl a chadw'r lefelau egni i fyny.
2. Cynllunio prydau wythnosol. Wneith hyn arbed gwastraff bwyd, lleihau teithiau siopa ac atal y teimlad 'dwi ddim yn gwybod beth i'w wneud i swper' a mynd am take-aways neu fwydydd sothach sydd ar gynnig arbennig yn y siopau.
3. Cadw'n brysur. Yn aml, mae pobl yn dweud wrtha' i eu bod nhw'n pori a snacio pan mae nhw allan o drefn neu'n colli pwrpas i'r diwrnod, neu'n chwilio am rhywbeth i wneud. Ceisiwch nodi cynllun o weithgareddau bob dydd e.e. deffro, gwaith t欧, garddio, galwadau teulu / amser cymdeithasol, amseroedd bwyd, amser hobi, eich ymarfer corff ac amser gwely arferol.
4. Ymarfer a chadw'n egn茂ol. Mae ymarfer corff yn bwysig i'n iechyd corfforol a'n iechyd meddwl ac i helpu i reoli'r pwysau, yn enwedig os ydych yn gweithio o adref neu'n eistedd wrth ddesg am gyfnodau hir.
Ceisiwch fynd allan i'r awyr iach yn ddyddiol o fewn canllawiau y Llywodraeth. Neu mae amrywieth o raglenni ymarfer ar-lein, cyfryngau cymdeithasol a theledu y gallwch chi fanteisio arnyn nhw. Dewiswch raglen rydych chi'n ei fwynhau a gweithio o fewn eich gallu gan symud ymlaen yn araf, gyda dyfalbarhad.
5. Coginio 'batch'. Os ydych chi'n brysur yn gweithio neu'n edrych ar 么l eich teulu, gall coginio batch fod yn fendith. Mae offer fel popty slow cooker yn wych am goginio llawer o fwyd ar y tro, a gellir rhewi yr hyn sydd ar 么l ar gyfer noson arall.
6. Dysgu sgiliau coginio newydd. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai fod gennych fwy o amser nawr i ddysgu sgiliau coginio o'r newydd neu ryseitiau gwahanol.
7. Bwyta'n feddyliol. Pan fyddwch chi'n bwyta, stopiwch weithio, peidiwch edrych ar eich ff么n na gwylio'r teledu. Eisteddwch i lawr a chanolbwyntio'n llawn ar fwynhau'r pryd bwyd.
8. Defynddio'r rhewgell. Mae'n bosib rhewi cymaint o fwydydd ac mae ffrwythau a llysiau wedi eu rhewi yr un mor faethlon 芒 rhai ffresh. Fedrwch chi storio bara a llaeth yn y rhewgell, gall leihau gwastraff.
Hefyd o ddiddordeb: