Lansio adnodd dysgu'n gynnar wrth i ynysu barhau
- Cyhoeddwyd
Mae casgliad newydd o adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg wedi ei lansio yn gynt na'r disgwyl wrth i sefydliadau addysg ymdopi gyda'r argyfwng coronafeirws.
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd wedi prysuro'r broses o ddatblygu'r wefan, sy'n cynnwys adnoddau ar gyfer disgyblion a myfyrwyr dros 16 oed.
Gobaith y coleg ydy galluogi myfyrwyr i barhau 芒'u hastudiaethau gyda deunyddiau Cymraeg yn ystod y cyfnod ynysu.
Daw ar 么l i'r 大象传媒 gyhoeddi adnoddau addysgol i ddisgyblion iau yn gynharach yn y mis.
Mae yn cael ei lansio'n gynnar gyda'r bwriad o fod o gymorth i ddisgyblion blwyddyn 11, 12 ac 13, yn ogystal 芒 dysgwyr mewn colegau addysg bellach, prentisiaid a myfyrwyr prifysgol i barhau 芒'u hastudiaethau Cymraeg a dwyieithog.
Yn 么l Mari Fflur, un o Reolwyr Academaidd y Coleg Cymraeg: "Yn benodol mae deunydd yno sy'n addas iawn ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 13 - adnoddau fydd yn rhoi blas ar y math o waith bydd myfyrwyr yn ei wneud yn eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol."
Mae adnoddau celf, ap tabl cyfnodol ac e-lyfrau a fideos i helpu myfyrwyr sy'n astudio am gymwysterau Safon Uwch.
Hefyd mae ap newydd sbon ar gyfer gweithwyr a myfyrwyr yn y sector gwasanaethau brys, i'w helpu i deimlo'n hyderus i siarad Cymraeg 芒'r cyhoedd.
Disgyblion 'ar goll'
Dywedodd pennaeth cynorthwyol Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd y bydd athrawon yn falch o'r adnoddau newydd.
"Mae plant blwyddyn 11 a 13 ar goll heb ddim i 'neud a sawl disgybl wedi bod yn holi am bethau i ddarllen wrth baratoi at eu cam nesaf mewn addysg," meddai Beca Newis.
Mae'r Porth Adnoddau yn gasgliad o adnoddau o wahanol blatfformau'r coleg a sefydliadau fel Llywodraeth Cymru a Cholegau Cymru.
Dywedodd y llywodraeth bod nifer defnyddwyr gwefan adnoddau addysg Hwb wedi cynyddu'n sylweddol yn ddiweddar, gyda chyfartaledd o dros 92,000 yn ei ddefnyddio bob dydd.
Mae darlithydd o Brifysgol Caerdydd yn dweud y bydd yr adnoddau yn ddefnyddiol i fyfyrwyr ysgol, ond bod angen mwy o gymorth ar fyfyrwyr addysg uwch.
Yn 么l Sian Morgan Lloyd, darlithydd o ysgol newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant y brifysgol: "Oherwydd Covid-19 ry'n ni'n brysio i ddatblygu adnoddau ychwanegol i gefnogi'r hyn mae'r Coleg Cymraeg yn ei gynnig.
"Mae'r profiad dros y mis diwethaf 'ma o newid ein steil addysgu i fod yn gyfan gwbl arlein wedi bod yn anodd, ond ry'n ni wedi arloesi. Mae'n myfyrwyr ni wedi rhoi eu ffydd ynddon ni."
Mae'n gyfnod o ansicrwydd mawr i brifysgolion sydd ddim yn gwybod pryd y byddant yn cael agor eto.
"Mae angen i ni baratoi ar gyfer pob math o senarios ar hyn o bryd. Mae prifysgolion ymhlith y diwydiannau allai gael eu heffeithio yn ofnadwy os na fydd 'na help yn dod.
"O ran y myfyrwyr iaith Gymraeg sy'n dod aton ni, byddwn ni'n gallu darparu addysg o'r radd flaenaf, a'n blaenoriaeth ni yw datblygu mwy o adnoddau arlein a datblygu a gwella'n hyder ni o ddysgu o bell.
"Ond i fi, yn bersonol, does dim byd yn cymharu gyda bod yn yr ystafell gyda chriw o fyfyrwyr. Dyna sy'n ddelfrydol, a gobeithio byddwn ni'n gallu gwneud hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020