大象传媒

Gordon Brown i helpu llywio adferiad Cymru wedi Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Gordon BrownFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd cyn-brif weinidog y DU, Gordon Brown yn helpu Llywodraeth Cymru fel aelod o gr诺p ymgynghorol allanol sydd 芒'r nod o sicrhau adferiad Cymru wedi'r pandemig coronafeirws.

Bydd Mr Brown - prif weinidog y DU rhwng 2007 a 2010 - yn ymuno 芒 phanel o arbenigwyr o du hwnt i Gymru.

Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys Paul Johnson, cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, a Dr Rebecca Heaton, aelod o Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU.

Mae Llywodraeth Cymru yn dal yn y broses o benodi aelodau i'r panel.

Mae disgwyl i'r ymgynghorwyr rannu eu harbenigedd mewn gwahanol feysydd er mwyn adfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus yn sgil effeithiau Covid-19.

Penodiad 'gwleidyddol'

Fe fydd y panel yn cynnal eu cyfarfod cyntaf dros y we ddydd Gwener, gan ganolbwyntio ar yr economi, pobl fregus, dyfodol gwasanaethau cyhoeddus a'r amgylchedd, gyda rhagor o gyfarfodydd wythnos nesaf.

Yng nghynhadledd i'r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles y byddai'r gr诺p yn cynnig "lleisiau o du allan i Gymru - a thu allan i'r Deyrnas Unedig - i ddod 芒 phersbectif gwahanol a herio ein gwaith".

Ychwanegodd fod Gordon Brown wedi bod yn "brif weinidog ar adeg anodd yng nghyfnod yr argyfwng ariannol, ac felly'n medru adlewyrchu ar hynny o'i brofiadau".

Dywedodd Mr Miles fod y llywodraeth hefyd eisiau clywed barn y cyhoedd.

"Rydyn ni eisiau clywed gan fwy o bobl ac felly rydyn ni'n sefydlu cyfeiriad e-bost penodol i chi anfon eich syniadau am y dyfodol," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jeremy Miles y byddai lleisiau o du hwnt i Gymru'n "cynnig persbectif gwahanol"

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r penodiad Gordon Brown i'r panel fodd bynnag, gan gyhuddo Llywodraeth Cymru o "wleidydda'i Gr诺p Adferiad Covid-19".

"Y peth olaf mae pobl Cymru ei angen mewn argyfwng digynsail yw dos arall o Gordon Brown," meddai'r AC Darren Millar, sy'n arwain ymateb Ceidwadwyr Cymru i'r coronafeirws.

"Yn lle cael rhywun o'r Blaid Lafur sydd wedi hen chwythu'i blwc, fyddai'n well i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i gynrychiolwyr y sectorau busnes a thrafnidiaeth i roi cyngor sut gallwn ni aildanio'r economi unwaith mae'n ddiogel i wneud hynny."

Dywedodd Delyth Jewell o Blaid Cymru y gallai "profiad" y cyn-brif weinidog fod o ddefnydd i'r panel.

"Ond bydden i'n annog Mr Miles i ddweud wrtho am roi ei ideoleg o'r neilltu ac adolygu ei wybodaeth am Gymru, er mwyn bod yn sicr mai dinasyddion Cymru fydd yn elwa o'i gynnwys, nid cenhadaeth unoliaethol adnabyddus Mr Brown," meddai.

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford mai Jeremy Miles, fydd yn cydlynu gwaith Llywodraeth Cymru o symud ymlaen wedi'r pandemig a chynllunio ar gyfer y dyfodol.