大象传媒

Cyngor Gwynedd 'wedi colli hyd at 拢9m' yn yr argyfwng

  • Cyhoeddwyd
Dyfrig Siencyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l arweinydd cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, bydd rhai cynghorau yn wynebu problemau ariannol difrifol

Mae arweinydd cyngor Gwynedd yn dweud fod yr awdurdod wedi colli hyd at 拢9 miliwn o incwm hyd yma oherwydd argyfwng coronafeirws.

Yn 么l Dyfrig Siencyn, bydd rhai cynghorau'n wynebu problemau ariannol difrifol, yn sgil colledion incwm o tua 拢170 miliwn ledled Cymru yn ystod y tri mis diwethaf.

"Mae 'na rai cynghorau'n sicr yn wynebu sefyllfa o fethu gosod cyllideb os na chawn ni rhyw ad-daliad gan y Llywodraeth," meddai.

Mae'r colledion yn dod oherwydd diflaniad incwm o feysydd parcio, canolfannau hamdden, a nifer o ffioedd eraill yn sgil y cyfyngiadau.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud y gallai eu colledion incwm yn y pen draw fod hyd at 拢20 miliwn.

Ar hyn o bryd mae'r cynghorau'n cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒'r posibilrwydd o gael cymorth ariannol ychwanegol.

Mae disgwyl i gabinet Cyngor sir Powys drafod rhoi saib gwaith i'w staff heddiw dan gynllun ffyrlo'r llywodraeth. Mae'r awdurdod yn colli dros 拢3m y mis mewn incwm o feysydd parcio, canolfannau hamdden a ffioedd oherwydd yr argyfwng presennol. Mae cannoedd o staff eisoes wedi cael eu ailgyfeirio i weithio mewn adrannau sy'n darparu gwasanaethau allweddol.

Mae 大象传媒 Cymru Fyw wedi gwneud cais i lywodraeth Cymru am ymateb.

Yn y cyfamser, mae Mr Siencyn yn dweud bod gwasanaethau cyngor Gwynedd yn ymdopi dan y straen o ddelio a'r argyfwng, ond mae'n apelio ar bobl i gysylltu os ydyn nhw'n bryderus am blant bregus,

"Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn dygymod, ond mae 'na bryder fod y cyfeiriadau aton ni lawer yn is nag ydyn nhw fel arfer. 'Dan ni'n bryderus am ddiogelwch plant tra'u bod nhw adref drwy'r cyfnod yma.

"Mae 'na neges i'r cyhoedd, os 'da chi'n gweld rhywbeth sy'n haeddu sylw'r gwasanaethau cymdeithasol, cysylltwch yn syth."

MWY O FANYLION I DDOD