´óÏó´«Ã½

Senedd Cymru yn dod yn enw swyddogol am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
CynulliadFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd yr enw Senedd Cymru yn cael ei arddel yn swyddogol o ddydd Mercher wrth i'r Cynulliad Cenedlaethol newid ei enw.

Yr enw swyddogol fydd Senedd Cymru neu Welsh Parliament yn Saesneg, ond y disgwyl yw y bydd y sefydliad fel arfer yn cael ei gyfeirio ato fel y Senedd yn y ddwy iaith.

Mae'r newid yn digwydd ar ôl i ddeddf newydd ddod yn gyfraith fis Ionawr eleni.

Fel Aelodau'r Senedd (ASau) fydd Aelodau Cynulliad nawr yn cael eu hadnabod.

Yn Saesneg, mi fyddan nhw'n cael eu hadnabod fel Members of the Senedd (MS).

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Newid dadleuol

Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes fod yr enw yn datgan bwriad y bydd y sefydliad yn ceisio mwy o bwerau yn y dyfodol.

"Dwi'n meddwl fod o'n arwyddocaol newid yr enw o Gynulliad i Senedd," meddai.

"Mae'n ddatganiad fod y bobl yno yn mynd i edrych am fwy o bwerau.

"Mae'n allweddol, mae pobl yn meddwl ar rywle fel San Steffan fel lle pwysig oherwydd bod y gair 'senedd' yno.

"Mae'r neges yn un ehangach na jest i'r gwleidyddion a'r intelligentsia- mae'n bwysig o ran esbonio pwysigrwydd y lle i'r werin. Maen nhw'n mynd i ddeall fod gan y lle yma bwerau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn cael eu hadnabod fel Aelodau'r Senedd o hyn ymlaen

Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd fod newid yr enw'n arwydd o'r Senedd yn "dod i oed".

"Mae'r gair Senedd yn uchel ei statws ond mae Cynulliad yn awgrymu statws is neu amhendant," meddai.

"Y gwir amdani ydy bod yr enw Cynulliad wedi ei roi i'r corff nol ers y '70au efo cynlluniau Llafur yr adeg yna, ac roedd o fod dynodi statws is."

Ychwanegodd: "Senedd oedd gan Glyndwr, felly mae'r enw yma yn golygu rywbeth yn hanesyddol mewn ffordd nad ydy Cynulliad yn ei wneud.

"Y gobaith dros amser, ydy y bydd pobl yn cynefino gyda'r enw ac yn deall bod y Senedd yn gwneud rhywbeth gwahanol i'r Llywodraeth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Senedd Cymru fydd enw swyddogol y sefydliad o hyn ymlaen

Ym mis Tachwedd, fe wrthododd Aelodau Cynulliad ymgais i roi enw uniaith Gymraeg i'r Senedd.

Cyn hynny roedd nifer o Gymry adnabyddus, gan gynnwys Michael Sheen a Cerys Matthews, wedi arwyddo llythyr i gefnogi enw yn Gymraeg yn unig.

Mae 6 Mai wedi ei osod yn y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) oherwydd ei fod yn nodi blwyddyn union tan Etholiadau'r Senedd yn 2021.

Nid dim ond newid yr enw mae'r ddeddf. Mae hefyd yn gostwng yr oed pleidleisio i 16 oed ac yn rhoi'r bleidlais i ddinasyddion o dramor sy'n gymwys.

Beth ydy Senedd Cymru?

Senedd Cymru ydy'r corff sy'n cael ei ethol drwy etholiadau'r Senedd i gynrychioli Cymru.

Mae'r Senedd yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar rhai o drethi Cymru ac yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru.

Bydd yr adeilad lle mae ASau yn cwrdd yn parhau i gael ei adnabod fel y Senedd.

Nid oes newid i enw Llywodraeth Cymru nac i weinidogion y Llywodraeth.